Prosiect arloesol sydd yn mynd i’r afael gyda heriau iechyd meddwl ym Mhen-y-bont a’n helpu newid bywydau

Mae’r elusen Mental Health UK a’r cwmni gofal iechyd Johnson & Johnson (gyda chefnogaeth y GIG lleol) wedi cyhoeddi lansiad prosiect arloesol  sydd yn ceisio trawsnewid y ffordd y mae gofal a chefnogaeth yn cael eu darparu i bobl ag afiechyd meddwl difrifol sy’n byw ym Mhen-y-bont.

Mae’r prosiect yn ceisio helpu diwallu anghenion iechyd meddwl pobl drwy ddarparu cefnogaeth deilwredig, eu hatgyfeirio at wasanaethau arbenigol er mwyn gwella ansawdd eu bywydau, atal yr angen am ofal argyfwng brys a’n lleihau pwysau ar wasanaethau meddygol aciwt.

Bydd y gwaith yn cael ei arwain yn lleol gan Lywiwr Iechyd Meddwl Cymunedol a fydd yn cefnogi anghenion – na sy’n feddygol – y bobl yma ag afiechyd meddwl difrifol fel anhwylder deubegynol, sgitsoffrenia ac anhwylder personoliaeth ffiniol. Bydd y llywiwr yn cefnogi pobl gyda materion fel problemau tai, arian, cyflogaeth, lles a diffyg cyswllt cymunedol gyda’u cymunedau – sef pethau sydd yn medru arwain at  broblemau iechyd meddwl ac sydd wedi dod i’r amlwg wrth i ni fel gwlad wella o sgil-effaith y pandemig coronafeirws.

Rôl y llywiwr yw deall yr anghenion hynny a’n sicrhau bod pobl yn medru cael mynediad at gefnogaeth leol – yn cysylltu’r dotiau rhwng y darparwyr cymorth gwahanol.

Mae’r prosiect peilot wedi ei arloesi gan yr elusen Mental Health UK, sydd yn meddu ar 40 mlynedd o brofiad yn darparu cyngor, gwybodaeth a chefnogaeth i bobl ar draws y wlad, ac mae wedi ei ariannu gan Johnson & Johnson. Mae hefyd yn ymgorffori’r argymhellion ar gyfer y Modelau iechyd Meddwl Cymunedol newydd sydd wedi eu hamlinellu yng   Nghynllun Hirdymor y GIG yn Lloegr ac yn ategu’r strategaethau GIG ehangach ar gyfer iechyd meddwl.

Dywedodd Brian Dow, Prif Weithredwr Mental Health UK:

“Gyda’r gefnogaeth gywir, ar yr adeg gywir, rwyf wir yn credu bod pobl ag afiechyd meddwl yn medru ffynnu yn eu cymunedau, ond yn aml, mae hyn ond medru digwydd os oes rhywle ganddynt sydd yn cael ei alw’n gartref, rhwydwaith cymorth cadarn, ac ymdeimlad o sefydlogrwydd ariannol ac iechyd corfforol da.

“Nid yw llawer o bobl yn gwybod ble i fynd, neu at bwy y dylid troi, pan fydd angen cefnogaeth arnynt. Mae’r prosiect hwn yn golygu bod rhai pobl ag afiechyd meddwl yn medru cael un pwynt cyswllt am y tro cyntaf sydd yn medru eu cefnogi a’n darparu cysondeb.  Bydd hyn nid yn unig yn helpu gwella ansawdd bywyd pobl ond mae hefyd yn meddu ar y potensial i leihau’r galw ar wasanaethau clinigol acíwt yn yr ardal.

“Mae hwn yn gyfle gwych i’n partneriaeth i weithio yn agos gyda’r arbenigedd sydd yn bodoli o fewn y systemau gofal iechyd lleol ym Mhen-y-bont ac rydym yn credu y gall ddod yn enghraifft o arfer gorau i rannau eraill o’r DU ei efelychu.”

Dywedodd Rhoda Steel, Pennaeth Effaith ar y Gymuned, Johnson & Johnson:

“Mae’r rhaglen arloesol hon yn meddu ar y potensial i drawsnewid y ffordd y mae gofal yn cael ei ddarparu i’r sawl sydd yn byw ag afiechyd meddwl difrifol – yn darparu  glasbrint i weddill y DU i’w ddilyn yn y dyfodol, ond yn fwy pwysig, yn helpu i wella bywydau.

“Rydym yn falch iawn ein bod yn gweithio gyda   Mental Health UK er mwyn sicrhau bod cefnogaeth hanfodol ar gael ar yr adeg y mae ei hangen fwyaf. Mae’n bartneriaeth sydd yn tanategu  ymrwymiad ehangach Johnson & Johnson at gefnogi cymunedau lleol a chodi ymwybyddiaeth a mynd i’r afael gyda’r stigma sydd yn rhan o iechyd meddwl – ac yn y pendraw yn mynd i’n helpu ni wireddu ein haddewid i ddylanwadu ar iechyd y ddynoliaeth.”

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig