Argyfwng costau byw: argyfwng iechyd cyhoeddus

Mae angen mynediad haws a chyflymach at gymorth iechyd meddwl a llesiant, a help gyda chostau ynni, tai a bwyd ar frys i ddiogelu iechyd ac achub bywydau, yn ôl Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r adroddiad newydd am yr argyfwng costau byw yn manylu ar sut y mae methu fforddio’r hanfodion, fel bwyd, taliadau rhent neu forgais, gwres a dŵr poeth, neu gludiant, yn arwain at effeithiau sylweddol ac eang negyddol ar iechyd meddwl a chorfforol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, bu cynnydd o 69 y cant o ran y bobl sy’n profi ansicrwydd bwyd yng Nghymru, a chynnydd o 50 y cant o ran y bobl sydd ar ei hôl hi wrth dalu biliau.

Mae un o argymhellion yr adroddiad yn ymwneud â chynlluniau i fanteisio i’r eithaf ar incwm.  Er enghraifft, mewn cynllun peilot diweddar yng Nghwm Taf Morgannwg, gwelwyd dros 1,200 o bobl ifanc yn cael cyngor i fanteisio i’r eithaf ar eu hincwm a theimlo’n fwy hyderus am ddelio ag arian.

Nododd 57 y cant eu bod yn teimlo llai o straen ac yn llai pryderus am eu problemau ariannol, ac roedd 70 y cant yn teimlo’n fwy hyderus wrth ymdrin â phryderon ariannol.  Dywedodd dros chwarter eu bod wedi dysgu i reoli eu cyllid o ddydd i ddydd yn well.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig