Amdanom ni
Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru
Beth yw Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru?
Sefydlwyd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2015 ar gyfer gweithwyr proffesiynol sy’n gweithio ar wella iechyd a lles poblogaeth Cymru a chyfunodd bedwar rhwydwaith pwnc-benodol blaenorol a gynhaliwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Bellach mae gan y Rhwydwaith dros 2,400 o aelodau o ystod o sectorau a sefydliadau gan gynnwys y GIG, Awdurdodau Lleol, Llywodraeth Cymru, y byd academaidd, y trydydd sector a’r sector preifat. Mae’r Rhwydwaith yn ymdrin â sbectrwm eang o bynciau gan gynnwys atal mewn gofal iechyd, ymddygiadau sy’n gysylltiedig ag iechyd, lles meddyliol ac mae’n canolbwyntio ar benderfynyddion ehangach iechyd – tai, addysg, cyflogaeth, incwm ac adnoddau a’r amgylchedd.

Beth yw nod ac amcanion y rhwydwaith?
Nod y Rhwydwaith yw hysbysu, hwyluso a chreu cysylltiadau i’r rheini sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus, preifat a’r trydydd sector er mwyn gwella iechyd a lles y boblogaeth yng Nghymru.
Cyflawnir hyn trwy:
Rhannu gwybodaeth o ystod amrywiol o safbwyntiau, gan gynnwys polisi, ymchwil ac ymarfer i wella iechyd a lles y boblogaeth.
Hwyluso datblygiad datrysiadau ac ymagweddau i lywio polisi, ymarfer ac ymchwil trwy ddod â safbwyntiau amrywiol ynghyd mewn gofodau creadigol.
Cysylltu aelodau ac adeiladu cymuned i hyrwyddo’r nod cyffredin o wella iechyd a lles y boblogaeth trwy weithredu ar draws cymdeithas.
Helpu pobl o ystod o sectorau i gydnabod eu cyfraniad cyfredol a phosibl at iechyd a lles y boblogaeth.
Pwy sy’n cynnal y Rhwydwaith?
Yr Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd, Cyfarwyddiaeth Iechyd a Lles Iechyd Cyhoeddus Cymru sy’n cynnal y Rhwydwaith.
Cyfarfod â thîm y Rhwydwaith

Catherine Evans
Cydlynydd y Rhwydwaith
Ymunodd Catherine â’r GIG yn 2003 ar ôl graddio o Sefydliad Prifysgol Cymru Caerdydd gyda BSc (Anrh) mewn Astudiaethau Bwyd.

Marie Griffiths
Cydlynydd y Rhwydwaith
Ymunodd Marie â’r GIG yn 2002, gan ddechrau ym maes Hybu Iechyd mewn rôl weinyddol.

Christian Heathcote-Elliott
Prif Ymarferydd Iechyd y Cyhoedd (Uned Penderfynyddion Ehangach yr Uned Iechyd)

Jamie Topp
Swyddog Cynnwys Digidol
Ymunodd Jamie â’r tîm ym mis Ionawr 2022, ar ôl gweithio i Dîm Cyfathrebu Iechyd Cyhoeddus Cymru am ddwy flynedd.

Dr Ciarán Humphreys
Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus
Mae Ciarán yn Ymgynghorydd mewn Meddygaeth Iechyd y Cyhoedd, yn gweithio ym maes anghydraddoldebau iechyd a phenderfynyddion ehangach iechyd.

Cerys Preece
Uwch Ymarferwr Iechyd Cyhoeddus

Sut mae’r Rhwydwaith yn cael ei lywodraethu?
Sefydlwyd Grŵp Cynghori Rhwydwaith yn 2016 i gynrychioli aelodau’r Rhwydwaith â chylch gwaith i gynghori a chefnogi’r Rhwydwaith i gyflawni ei nodau a’i amcanion ac i gefnogi Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i bartneriaid a’i randdeiliaid i gyflawni ‘Lles Cenedlaethau’r Dyfodol yn effeithiol (Deddf Cymru) 2015’ a pholisïau a chynlluniau perthnasol eraill. Cadeirir y Grŵp Cynghori gan Dr Ciáran Humphreys, Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd (Iechyd Cyhoeddus Cymru) ac mae’n cyfarfod bob chwarter.
Am wybod mwy?
Os ydych chi eisiau gwybod mwy am y Rhwydwaith, os oes gennych syniadau ar ei ddatblygiad neu faes gwaith penodol yr hoffech ei rannu gydag aelodau, cysylltwch â thîm y Rhwydwaith.
Beth yw manteision bod yn aelod o’r Rhwydwaith?
Mynediad cynnar i gynnwys
Eich cysylltu chi ag aelodau sydd â diddordebau tebyg
Rhannu’ch gwaith gyda’r aelodau
Cyfrannu at ein podlediadau
Cyfrannu at ein gweminarau
Y gallu i arbed ein cynnwys i’ch cyfrif eich hun

Dilynwch ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol