Datganiad Hygyrchedd
Mae hygyrchedd ar y wefan hon wedi ei arwain gan safonau’r llywodraeth a Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG). Derbynnir canllawiau WCAG yn eang fel y safon ryngwladol ar gyfer hygyrchedd ar y we.
Er mai ein nod yw gwneud y wefan hon yn hygyrch i bob defnyddiwr a chyflawni lefel gydymffurfio WCAG ‘AA’ neu’n uwch; rydym yn gweithio’n barhaus gyda rhanddeiliaid i sicrhau cydymffurfio â lefel ‘A’ fel isafswm.
Os ydych yn cael unrhyw broblemau hygyrchedd ar y safle hon neu os oes gennych unrhyw sylw, cysylltwch â ni.
Fersiwn 1, adolygwyd Ebrill 2021
Statws Cydymffurfio
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.
Gwyddom nad yw rhannau o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
Nid yw rhai delweddau yn cynnwys capsiynau nac wedi eu disgrifio
Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant WCAG 2.1, 1.1.1 Dim Cynnwys Testun
Nid oes gan rai fideos gapsiynau na sain-ddisgrifiad
Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant WCAG 2.1, 1.2.1 Sain yn unig a Fideo yn unig (Wedi ei recordio ymlaen llaw) Lefel A; a 1.2.2 Capsiynau Lefel A
Nid yw rhai dolenni i adnoddau, dogfennau a PDFs allanol wedi eu labelu’n glir oherwydd eu teitlau
Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant WCAG 2.1, 2.4.4 Diben Dolen (Mewn Cyd-destun) Lefel A
Mae rhai delweddau yn cynnwys testun na fydd yn cyd-fynd ag offeryn awto-ddarllenydd
Mae hyn yn methu Maen Prawf Llwyddiant WCAG 2.1, 1.4.5 Delweddau Testun Lefel AA
Baich Anghymesur
O fewn yr adnodd presennol, byddwn yn ymdrechu i wneud ein gwefan yn fwy hygyrch yn unol â chanllawiau WCAG fersiwn 2.1 Lefel A a Lefel AA
Llywio a chael mynediad at wybodaeth
- Nid oes unrhyw ffordd o osgoi’r cynnwys ailadroddus ar bennawd y dudalen (er enghraifft, dewis ‘mynd i’r prif gynnwys’).
- Nid yw bob amser yn bosibl newid cyfeiriadedd y ddyfais o lorweddol i fertigol heb ei wneud yn fwy anodd gweld y cynnwys.
- Nid yw’n bosibl i ddefnyddwyr newid maint y testun heb i rywfaint o’r cynnwys orgyffwrdd.
PDF a Dogfennau Eraill
Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn gofyn i ni unioni dogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Nid ydym yn bwriadu unioni unrhyw ddogfennau PDF neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018, fodd bynnag byddwn yn ymdrechu i wneud unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd yn hygyrch lle y bo’n bosibl.
Rydym yn ymwybodol nad yw rhai adnoddau, dogfennau a dogfennau PDF allanol yn bodloni’r canllawiau hygyrchedd, er enghraifft, nid ydynt yn cyd-fynd ag offeryn awto-ddarllenydd ac yn cynnwys delweddau heb ddisgrifiadau. Rydym yn adolygu’r adnoddau allanol hyn yn barhaus yn unol â’r canllawiau hygyrchedd i weld pa rai o’r adnoddau hyn sydd yn hanfodol i’w cadw, neu y gellir eu dileu a darparu adnoddau sydd yn bodloni’r canllawiau hygyrchedd yn eu lle.
Fideo Byw
Rydym yn ymdrechu i ychwanegu isdeitlau i ffrydiau sain neu fideo byw lle y bo’n bosibl, fodd bynnag mae fideo byw wedi ei eithrio o fodloni’r rheoliadau hygyrchedd. Byddwn bob amser yn ceisio darparu fersiynau ag isdeitlau o’r fideos wedi eu recordio ymlaen llaw yr ydym yn eu cynhyrchu.
Read Aloud
Google Chrome: Gallwch lawrlwytho’r estyniad Screen Reader ar gyfer Google Chrome i nodweddion gweithredol Read Aloud.
Lawrlwythwch Screen Reader ar gyfer Google Chrome
Edge: Cliciwch yr elipsis yn y gornel dde ar frig y dudalen i agor y gwymplen. Cliciwch “Read Aloud” i agor y panel rheoli, fydd yn ymddangos o dan y bar URL. Pwyswch Play i ddarllen y dudalen o’r brig i lawr, neu cliciwch i amlygu’r testun ar y dudalen a phwyswch play i Read Aloud ddechrau ar y testun sydd wedi ei amlygu.
PDF: Mae gan Adobe Acrobat Reader swyddogaeth “Read Aloud”. Gyda’r PDF ar agor, ewch i “View”, yna “Read Out Loud” a chliciwch “Activate Read Out Loud”. Cliciwch ddwywaith i ddewis testun i ddechrau Read Aloud. Dadactifadwch Read Aloud yn yr un ddewislen ag y gwnaethoch ei actifadu.
Lawrlwythwch Adobe Acrobat Reader
Addasu maint testun
- Google Chrome: Cliciwch yr elipsis fertigol i agor y ddewislen ac ewch i “Settings”, sgroliwch i lawr i “Appearance” a gweler “Font size”
- Edge: Cliciwch yr elipsis yn y gornel dde ar frig y dudalen i agor y gwymplen. Ewch i “Settings”, ar y ddewislen ochr cliciwch “Appearance” a gweler “Font size”
Noder y gall y gosodiadau uchod wahaniaethu yn dibynnu ar fersiwn y porwr
Lawrlwytho Ffeiliau
Efallai fydd angen i chi lawrlwytho’r darllenwyr/gwylwyr canlynol i gael mynediad at fformatiau dogfen gwahanol ar y safle hwn. Gellir lawrlwytho’r rhain am ddim o wefannau allanol perthnasol fel y nodir isod:
Lawrlwytho Microsoft Word Viewer
Lawrlwytho Adobe Acrobat Reader
Fersiwn 1, adolygwyd Ebrill 2021