Public Health Network Wales Cymru

Ein prif ddewisiadau

Ein huchafbwyntiau dewisol o weithgareddau diweddaraf y rhwydwaith

Gweminar ar bolisi ac ymarfer – 8 Mehefin 2023

Y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol – cynyddu cyfleoedd iechyd a lles i’r eithaf ar gyfer pobl a chymunedau sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol yng Nghymru

 Daeth y Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol i rym yng Nghymru ar 31 Mawrth 2021 a’i nod yw darparu canlyniadau gwell i’r rhai sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol mewn meysydd fel iechyd, disgwyliad oes a chyrhaeddiad addysgol. Er bod cyrff cyhoeddus wedi croesawu’r Ddyletswydd, mae gwaith ymchwil gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn awgrymu nad yw wedi cael ei gweithredu’n llawn a bod angen mwy o gymorth. Mae’r Ddyletswydd Economaidd-gymdeithasol yn gyfle i wneud gwahaniaeth i iechyd a lles pobl sy’n profi anfantais economaidd-gymdeithasol a hyrwyddo cydraddoldeb.

Bydd y weminar hon yn archwilio gweithredu’r Ddyletswydd yn ymarferol ac yn rhoi arweiniad ychwanegol ar arweinyddiaeth systemau, defnyddio data’n effeithiol, ymgysylltu’n ystyrlon a gwybod sut mae sefydliadau wedi gwneud gwahaniaeth. Bydd y weminar yn esbonio sut mae anghydraddoldebau o ran canlyniad wedi’u cysylltu ag anfantais economaidd-gymdeithasol, gyda phwyslais cryf ar iechyd.

featured-image

Gweld pob digwyddiad

Rydym yn rhannu ac yn hwyluso digwyddiadau i hysbysu ein haelodau

Gweld pob digwyddiad

Dod yn Aelod

Gallwch elwa ar fynediad cynnar i gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth o Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ein E-Fwletin

Darllenwch ein E-Fwletinau rheolaidd am ddiweddariadau ar destunau cyfredol ac ymchwil.

Rhifyn cyfredol

Mannau gwyrdd a glas ar gyfer iechyd a lles

Cyfrannu at ein rhwydwaith

Eisiau cyfrannu at ein E-Fwletin neu’n Podlediad nesaf? Dewch yn aelod i gael eich gwahodd i rannu eich syniadau, ymchwil a’ch newyddion bob mis.
Microphone-img

Dilynwch ni ar y Cyfryngau Cymdeithasol

Dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol i gael y newyddion diweddaraf gan Rwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.