Dyddiad + Amser
20 Tachwedd 2024
10:00 YB - 12:00 YP
Bydd y Fforwm Iechyd Rhyngwladol yn hyrwyddo profiadau cydweithwyr ar draws Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn rhannu’r hyn a ddysgwyd o gymryd rhan mewn gweithgareddau ac ymchwil iechyd rhyngwladol ac yn darparu amser i drafod cyfleoedd ar gyfer y dyfodol i ymgysylltu â gwaith a rhwydweithiau partneriaethau rhyngwladol. Bydd y gwaith hwn yn galluogi ac yn cefnogi gweithrediad Strategaeth Hirdymor Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Canlyniadau Dysgu:
Rhannu gwybodaeth, dysg a phrofiadau gan bartneriaid a rhwydweithiau rhyngwladol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn cyflwyno eich gwaith neu os oes gennych bwnc trafod, cysylltwch â [email protected]
Cadeirydd – Liz Green – Ymgynghorydd Iechyd y Cyhoedd, Polisi ac Iechyd Rhyngwladol / Cyfarwyddwr Rhaglen Asesu’r Effaith ar Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Byddwn yn clywed gan:
David Warren – Pennaeth Cysylltiadau Rhyngwladol, Llywodraeth Cymru
Meng Khaw – Cyfarwyddwr Cenedlaethol Sgrinio a Gwasanaethau Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Arweinydd Pwynt Ffocws Cymdeithas Ryngwladol Sefydliadau Iechyd y Cyhoedd Cenedlaethol (IANPHI)
Mariana Dyakova – Pennaeth Iechyd Rhyngwladol a Dirprwy Gyfarwyddwr Canolfan Gydweithredol Sefydliad Iechyd y Byd Polisi ac Iechyd Rhyngwladol, Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Arbenigwr Ymgynghorol mewn Iechyd y Cyhoedd a’r Economi Llesiant, Swyddfa Ewropeaidd Sefydliad Iechyd y Byd ar gyfer Buddsoddi mewn Iechyd a Datblygiad
Giri Shankar – Cyfarwyddwr Diogelu Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyd-Gadeirydd Grŵp Diddordeb Arbennig India Cyfadran Iechyd y Cyhoedd (FPH)
20 Tachwedd 2024
10:00 YB - 12:00 YP
Ar-lein
A oes gennych adnodd yr hoffech ei rannu? Dewch yn aelod a chyfrannu at ein rhwydwaith.