Marie Griffiths

Cydlynydd Rhwydwaith

Ymunodd Marie â’r GIG yn 2002, gan ddechrau ym maes Hybu Iechyd mewn rôl weinyddol.

Yn 2004 cafodd ei secondio o fewn y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol i rôl swyddog prosiect yn cefnogi Positive Steps, cynllun atgyfeirio ymarfer corff cymunedol mewn partneriaeth rhwng y gwasanaethau iechyd, meddygon teulu a’r Awdurdod Lleol. Rhoddodd hyn y cyfle iddi ddatblygu ymhellach ac yn 2007 graddiodd o Brifysgol Metropolitan Abertawe â BA (Anrhydedd) mewn Astudiaethau Iechyd a Chymdeithaseg. Roedd ei hymchwil yn ystod y cyfnod hwn yn seiliedig ar ‘Agweddau tuag at salwch meddwl a’r stigma sy’n gysylltiedig ag ef’.

Cafodd ddyrchafiad yn Nhîm Iechyd Cyhoeddus Abertawe i swydd Rheolwr Swyddfa yn 2008, gan reoli’r tîm gweinyddol a rhoi cefnogaeth i’r Pennaeth Gwasanaeth, yr Arbenigwyr Hybu Iechyd a’r Ymarferwyr Iechyd Cyhoeddus. Roedd y swydd yn eang iawn ei chwmpas ac yn rhoi profiad o weithio gyda chydweithwyr mewn Timau GIG eraill a phartneriaid lleol mewn sefydliadau eraill ar agenda gwella iechyd a lles eang. Mae wedi cefnogi gwaith gwella iechyd lleol ar reoli tybaco, gweithgarwch corfforol, iechyd rhywiol ac iechyd yn y gweithle, sydd oll yn cynnwys cyfleoedd i helpu iechyd a lles meddwl ac emosiynol pobl.

Mae Marie yn ymrwymedig i’r maes hybu iechyd meddwl ac yn canolbwyntio ar ymarfer sy’n seiliedig ar dystiolaeth a gwerth ychwanegol gwaith partneriaeth.

Dechreuodd Marie ei rôl fel Cydlynydd Rhwydwaith Iechyd Meddwl Cymru ym mis Gorffennaf 2010 ac mae bellach yn un o Gydlynwyr Cymru Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru sydd wedi’i leoli yn yr Uned Penderfynyddion Ehangach Iechyd yn y Gyfarwyddiaeth Iechyd a Lles.

Darllen mwy

Catherine Evans

Catherine Evans

Cydlynydd Rhwydwaith

Jamie Topp

Jamie Topp

Swyddog Cynnwys Digidol

Ciarán Humphreys

Ciarán Humphreys

Ymgynghorydd Iechyd Cyhoeddus

Emma Girvan

Emma Girvan

Uwch Ymarferwr Iechyd Cyhoeddus