Cyflwyniad i Iechyd y Cyhoedd (Cwrs Byr)
Mae’n bleser gan academyddion o Brifysgol Glyndŵr gyhoeddi y byddant yn cynnal cwrs byr Cyflwyniad i Iechyd y Cyhoedd wedi ei ariannu’n llawn yn fuan, gan ddechrau ar ddydd Mercher 14 Ebrill.
Bydd y cwrs byr hwn yn cyflwyno’r cyfranogwyr i rai o’r materion sydd yn heriol i iechyd, iechyd meddwl a lles pobl yn y gymdeithas heddiw, yn ogystal â strategaethau unigol a chymunedol ar gyfer hybu a gwella iechyd, iechyd meddwl a lles mewn cyfnod heriol. Bydd hefyd yn annog y cyfranogwyr i gwestiynu ac ystyried sut olwg fyddai ar system iechyd y cyhoedd gydnerth ac ymatebol.
Mae hwn yn gwrs byr, hygyrch a hyblyg y gellir ei astudio’n gyfan gwbl ar adeg sy’n gyfleus i’r cyfranogwyr os ydynt yn dymuno.
Cynhelir y cwrs hwn bob dydd Mercher hyd at 30 Mehefin, ac mae’n rhad ac am ddim. Mae mwy o wybodaeth, yn cynnwys gwybodaeth am archebu lle, ar gael yma.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.