A yw gweithio gartref yn dda i’ch iechyd?
Mae ymchwil newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi nodi er y byddai’r rhan fwyaf o bobl yn hoffi parhau i weithio gartref, roedd bron hanner y rhai a holwyd hefyd wedi nodi llesiant gwaeth a theimladau o unigrwydd.
Gwnaeth yr arolwg, a gynhaliwyd rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Ionawr 2021 yn ystod ail don pandemig y Coronafeirws, holi oedolion mewn cyflogaeth yng Nghymru a allent weithio gartref ac effaith gweithio gartref ar eu hiechyd a’u llesiant.
Gofynnodd yr arolwg i’r ymatebwyr ystyried eu blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol. Roedd tri o bob pump o ymatebwyr eisiau treulio o leiaf rhywfaint neu’r cyfan o’u hwythnos waith yn gweithio gartref. Roedd un o bob pump am osgoi gweithio gartref yn gyfan gwbl.
O’r rhai a allai weithio gartref yn ystod y pandemig, nododd bron hanner ohonynt lesiant meddyliol gwaeth (45 y cant) a mwy o deimladau o unigrwydd (48 y cant).
Ymhlith y grwpiau a oedd yn fwy tebygol o roi gwybod am yr effeithiau hyn roedd:
- Gweithwyr iau yn eu 30au
- Menywod
- Y rhai a oedd yn byw ar eu pen eu hunain
- Y rhai â llesiant meddwl gwaeth
- Y rhai sy’n byw gyda chyflyrau cyfyngol sy’n bodoli eisoes
Roedd effeithiau gweithio gartref ar ddeiet ac ymarfer corff yn fwy cymysg. Er bod pedwar o bob 10 wedi nodi gostyngiad yn eu lefelau ymarfer corff, nododd tri o bob 10 welliant. Yn yr un modd, nododd tua un o bob tri ddeiet gwaeth, er bod un o bob pedwar wedi nodi gwelliant.
Mae’r canfyddiadau yn ein hatgoffa efallai nad yw’r cyfle i weithio gartref yn hygyrch i bawb. Roedd dynion, y rhai oedd yn byw mewn ardaloedd mwy difreintiedig, y rhai mewn cyflogaeth dros dro a’r rhai ag iechyd meddwl a chorfforol gwaeth i gyd yn llai tebygol o nodi eu bod yn gallu gweithio gartref yn ystod y cyfnod hwn.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.