Arolwg yn datgelu’r angen am ffocws hirdymor ar gymorth iechyd meddwl yng Nghymru

Gyda chyfnodau clo yn llacio, teuluoedd yn ailuno a phobl yn dechrau symud tuag at ‘normal newydd’, mae effaith hirdymor pandemig coronafeirws ar iechyd meddwl pobl wedi cael sylw unwaith eto.

Datgelodd ffigurau cychwynnol newydd gan arolwg Mind Cymru, ‘Coronavirus: One Year On’, fod bron dau mewn tri (63 y cant) oedolyn yn credu bod eu hiechyd meddwl a’u llesiant wedi gwaethygu ers y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020. Yn ogystal, dywedodd ychydig dros chwarter y bobl (26 y cant) eu bod wedi datblygu problem iechyd meddwl yn ystod y pandemig. Methu gweld ffrindiau, teulu neu bartner a phoeni am y feirws oedd y prif ffactorau oedd yn cyfrannu at hyn, gyda 60% o’r ymatebwyr yn poeni am weld neu fod yn agos at bobl eraill ar ôl i’r cyfyngiadau lacio.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig