Gofod i Anadlu: Gwerthfawrogi gofod gwyrdd ar safleoedd y GIG ar gyfer llesiant staff

Mae ymchwil newydd yn dangos bod gan erddi a gofod gwyrdd arall ar safleoedd ysbytai rôl bwysig i’w chwarae yn cynorthwyo llesiant staff. Roedd yr astudiaeth hon dros dair blynedd a gyhoeddwyd gan y Ganolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy yn canolbwyntio ar dri safle’r GIG oedd wedi cymryd camau i annog eu staff i ymlacio a magu nerth newydd mewn gofod gwyrdd.

Mae straen staff wedi bod yn fater pwysig i’r GIG ers amser, gyda thros bedwar mewn 10 aelod o staff yn 2019 yn nodi eu bod wedi teimlo’n anhwylus o ganlyniad i straen yn ymwneud â gwaith dros y 12 mis diwethaf. Mae’r problemau hyn wedi cael eu gwaethygu’n sylweddol gan bandemig Covid-19, sydd yn gwneud llesiant staff yn fwy o flaenoriaeth nawr nag erioed. Mae’r ymchwil yn dangos bod awydd cryf ymysg staff iechyd i gael amser yn yr awyr agored – naill ai am saib neu yn ystod eu gwaith – ac mae’n awgrymu ystod o fuddion llesiant.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig