Profodd unigolion a oedd yn gwarchod ostyngiad yn y defnydd o ofal iechyd, a risg uwch o iechyd meddwl gwael, yn ystod y pandemig

Mae adroddiad newydd, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn nodi gostyngiadau amlwg mewn gofal yn yr ysbyty yn ystod pandemig y Coronafeirws ymhlith y rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol i symptomau difrifol Coronafeirws ac wedi’u cynghori i warchod; a bod y boblogaeth hon yn wynebu risg uwch o brofi iechyd meddwl gwaeth na’r boblogaeth gyffredinol o fis Mawrth i fis Medi 2021.

Roedd yr astudiaeth hon yn seiliedig ar fwy na 127,000 o bobl a gynghorwyd i warchod yng Nghymru (sy’n cynrychioli tua 4 y cant o’r boblogaeth). Roedd y boblogaeth sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn grŵp amrywiol iawn, gydag anghenion iechyd cymhleth. Y cyflyrau sylfaenol mwyaf cyffredin oedd anadlol (37 y cant), wedi’i ddilyn gan imiwnoataliedig (27 y cant) a chanser (21 y cant).

Gan adlewyrchu’r anghenion iechyd cymhleth hyn, mae lefelau cyffredinol y defnydd o ofal iechyd fel arfer yn llawer uwch ymhlith y boblogaeth sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol na’r boblogaeth gyffredinol. Ond yn 2020, o gymharu â 2019, roedd y gostyngiadau mwyaf yn y defnydd o ofal iechyd brys ymhlith y boblogaeth sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol;

  • Gostyngodd presenoldeb mewn adrannau achosion brys 24 y cant ymhlith y boblogaeth sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol ac 20 y cant ymhlith y boblogaeth gyffredinol.
  • Gostyngodd derbyniadau brys i’r ysbyty 26 y cant ymhlith y boblogaeth sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol a 13 y cant ymhlith y boblogaeth gyffredinol.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig