Y Gweinidog Iechyd Meddwl yn addo £3 miliwn i ‘roi help llaw’ i’r bobl fwyaf agored i niwed yn ystod y pandemig

Bydd cyllid ychwanegol o bron i £3 miliwn yn cefnogi rhai o’r defnyddwyr gwasanaethau iechyd meddwl mwyaf agored i niwed yng Nghymru yn ystod pandemig COVID-19.

Mae’r Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Eluned Morgan wedi gwneud addewid i roi ‘help llaw’ i’r rheini sy’n chwilio am waith, llety parhaol, ac a allai fod phroblemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau ynghanol y pandemig hwn.

Bydd y cyllid ychwanegol yn darparu cymorth cynnar wedi’i dargedu, ar gyfer yr unigolion mwyaf agored i niwed mewn ffordd ataliol er mwyn atal anghenion, sy’n aml yn rhai cymhleth, rhag gwaethygu.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig