Gall yr hyn a ddysgir o’r pandemig helpu iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc yng Nghymru yn y dyfodol

Mae pandemig y Coronafeirws wedi effeithio ar bob person ifanc yng Nghymru, er bod sut yr effeithiwyd ar lesiant meddyliol pobl ifanc yn dibynnu ar amrywiaeth o ffactorau, yn ôl Asesiad newydd o’r Effaith ar Lesiant Meddyliol (MWIA) gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Mae’r canfyddiadau’n tynnu sylw at dystiolaeth gref bod blociau adeiladu allweddol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant da, gan gynnwys teulu a pherthnasoedd cymdeithasol, addysg, diogelwch economaidd, mynediad at wasanaethau, cyfranogiad mewn gweithgareddau grŵp, teimlo’n ddiogel ac mewn rheolaeth i gyd wedi’u heffeithio yn ystod y pandemig.

Mae’r adroddiad manwl yn nodi cyfres o ffactorau a helpodd i ddiogelu iechyd meddwl a llesiant pobl ifanc. Roedd y rhain yn cynnwys, perthnasoedd agos â rhieni, cael tai diogel gyda lle i astudio a bod yn yr awyr agored, cadw mewn cysylltiad â ffrindiau a theulu, cadw’n gorfforol egnïol, cynnal trefn a strwythur i’r dydd, ceisio cymorth pan fo angen, dysgu sgiliau newydd, gweithgareddau hamdden a chreadigol.

Ar Medi 8fed, bydd Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal gweminar lle bydd canfyddiadau’r MWIA yn cael eu cyflwyno a’u trafod. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a chofrestru yma.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig