DIGWYDDIADAU BLAENOROL

Daeth y digwyddiad i ben.

Mae'r digwyddiad hwn bellach wedi mynd heibio. Gweler isod am ragor o fanylion am yr hyn a ddigwyddodd yn ystod y digwyddiad hwn.

Diogelu lles meddwl cenedlaethau’r dyfodol

Dydd Iau 8 Medi 2022
With Public Health Network Cymru

Mae lles meddwl plant a phobl ifanc yn flaenoriaeth i lawer o sefydliadau yng Nghymru. Bydd y weminar hon o gymorth i chi ganfod yr hyn yr ydym yn ei wybod hyd yn hyn am effaith COVID-19 a’r rhaglen “Ymagwedd Ysgol Gyfan” y mae ysgolion yng Nghymru’n ei rhoi ar waith i hyrwyddo lles meddwl ac emosiynol.

Ymunwch â Nerys Edmonds o’r Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru (WHIASU), Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Amy Davies o’r Is-adran Gwella Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru:

  • Rhannu’r prif ganfyddiadau a’r argymhellion a geir mewn Asesiad o’r Effaith ar Les Meddwl gan archwilio effeithiau pandemig COVID-19 ar ffactorau amddiffynnol lles meddwl ar gyfer pobl ifanc 10-24 oed
  • Disgrifio nod yr Ymagwedd Ysgol Gyfan tuag at Les Meddwl ac Emosiynol, a sut mae’r rhaglen wedi cael ei gweithredu hyd yn hyn ar draws Cymru
  • Rhannu’r hyn a ddysgwyd o weithgaredd gwerthuso sy’n archwilio sut mae ysgolion uwchradd wedi ymgysylltu â’r broses hunanasesu o adolygu anghenion a chryfderau eu cymuned ysgol.

Diogelu lles meddwl cenedlaethau’r dyfodol


Awgrymwch bwnc ar gyfer ein digwyddiadau yn y dyfodol

Pa bynciau yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw mewn Gweminarau yn y dyfodol? Gadewch i ni wybod isod

    If you would like us to contact you regarding your submission, please select 'submit with my contact details'


    Nodi problem

    Rydym yn gwneud ein gorau i gadw’r dudalen hon mor gyfredol â phosibl.
    Os byddwch yn canfod bod unrhyw wybodaeth yn arwain at ddolen farw neu os hoffech roi adborth ar y dudalen hon, cysylltwch â ni isod.

    Yn ôl i'r brig