Mae lefelau hapusrwydd yn cynyddu gyda’r adferiad o’r pandemig bellach yn mynd rhagddo

Mae arolwg newydd i ymgysylltu â’r cyhoedd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi datgelu er bod iechyd meddwl, hapusrwydd a gorbryder pobl wedi’u taro galetaf yn ystod gaeaf 20/21, nododd 70 y cant o’r rhai a holwyd eu bod yn teimlo’n hapus erbyn mis Mawrth 2022.

Drwy gydol y pandemig, pobl dros 75 oed oedd hapusaf (76 y cant), o gymharu â 58 y cant o bobl 18-34 oed yn dweud eu bod yn teimlo’n hapus. Yn ogystal, nododd mwy o ddynion (69 y cant) eu bod yn teimlo’n hapus na menywod (64 y cant).

Roedd poeni am ddal coronafeirws hefyd wedi cyrraedd uchafbwynt o amgylch mis Rhagfyr 2020/Ionawr 2021 ac yna gostyngodd yn sylweddol; gan gyd-fynd â chyflwyno’r rhaglen frechu. Parhaodd yn gymharol isel drwy gydol gweddill amser yr arolwg.

Rhwng mis Ebrill 2020 a mis Mawrth 2022, cynhaliodd Iechyd Cyhoeddus Cymru arolwg ymgysylltu dros y ffôn i olrhain sut roedd coronafeirws a mesurau rheoli cysylltiedig yn effeithio ar iechyd a llesiant y cyhoedd.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae dros 27,000 o drigolion Cymru wedi cymryd rhan yn yr arolwg, gyda thua 600-1000 o drigolion yn cymryd rhan ym mhob un o rowndiau’r arolwg.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig