Hafal yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu pobl ag afiechyd meddwl wrth gyflwyno’r brechlyn

Mae’r elusen iechyd meddwl Gymreig Hafal wedi galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu pobl sydd ag afiechyd meddwl gan eu bod mewn mwy o risg o ddal y feirws, gan fynd yn ddifrifol sâl.

Mae’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaeth a Chynnyrch Gofal Iechyd (MHRA) wedi cymeradwyo brechlyn Pfizer Biontech fel brechlyn diogel ac effeithiol, ac mae rhaglen brechlyn nawr yn cael ei chyflwyno ar hyd a lled Cymru. Mae’r Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI) sydd yn rhoi cyngor i Lywodraeth y DU ar y brechlyn ac imiwneiddio wedi dweud bod y bobl hynny sydd â chyflyrau iechyd  sylfaenol yn grŵp blaenoriaeth: mae hyn yn cynnwys pobl sydd yn byw ag “afiechyd meddwl difrifol”- sydd yn cael ei ddiffinio fel “unigolion sydd â sgitsoffrenia neu anhwylder deubegynol, neu unrhyw afiechyd meddwl sydd yn achosi nam swyddogaethol difrifol”.

Mae’r JCVI yn cynghori y dylid cynnig brechlyn i’r cleifion yma unwaith y mae wedi ei gynnig i bobl sydd yn:

  • byw mewn cartrefi gofal ar hgyfer oedolion hŷn
  • gweithwyr iechyd, gofal cymdeithasol a gweithwyr gofal cartref ar y rheng flaen
  • 65 a’n hŷn
  • hynod fregus yn glinigol.

Wrth gwrs, mae rhai cleifion sydd  “ag afiechyd meddwl difrifol” eisoes yn perthyn i’r categorïau yma.

Mae Hafal yn gofyn i Lywodraeth Cymru i sicrhau bod pobl sydd   “ag afiechyd meddwl difrifol”  yng Nghymru, sydd yn cynnwys y rhai hynny sy’n derbyn gwasanaethau iechyd meddwl ar lefel eilaidd a llawer o bobl eraill sydd yn derbyn gwasanaethau gofal cynradd ar gyfer afiechydon fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol, yn derbyn y brechlyn ar y lefel sydd yn cael ei argymell gan y JCVI.

Mae Hafal yn amlygu’r ffaith fod pobl ag afiechyd meddwl difrifol fel arfer:

  • Yn dioddef iechyd corfforol gwael – sydd yn cael ei brofi gan y ffaith bod eu disgwyliad oes tua 15-20 mlynedd yn is na’r boblogaeth yn gyffredinol – ac felly, maent yn hynod fregus unwaith eu bod wedi dal y feirws
  • Yn byw mewn awyrgylch sydd yn aml yn llawn anhrefn, yn newid neu’n beryglus – rhwng tai a rennir a thai teuluoedd, tai arbenigol, tai arbenigol, yn ddigartref, yn yr ysbyty neu’r carchar
  • Y ddryslyd ynglŷn â sut i osgoi’r feirws ac weithiau mewn risg uchel o ddal y feirws yn sgil eu hymddygiad pan yn seicotig
  • Mewn cysylltiad aml gyda gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol am driniaeth gyson, meddyginiaeth a therapi – ac mewn argyfyngau – ac felly, mewn mwy o risg o ddal y feirws.

Dywedodd Is-gadeirydd Hafal, Nyrs Ymgynghorol i Blant a’r Glasoed a’r Athro Dr. Euan Hails: “Dylai’r holl rai hynny sydd ag afiechyd meddwl fod yn flaenoriaeth uchel pan ddaw hi at y brechlyn gan fod y grŵp hwn mewn risg cynyddol o ddal Covid-19, gan fynd yn ddifrifol sâl.

“Mae ystod eang o astudiaethau yn awgrymu bod ein cleientiaid yn wynebu anghydraddoldebau iechyd corfforol eithafol. Er enghraifft, mae dadansoddiad-meta o ymchwil wedi canfod fod pobl ag afiechydon fel sgitsoffrenia ac anhwylder deubegynol yn  53% mwy tebygol o gael afiechyd cardiofasgiwlaidd na’r rhai hynny heb gyflyrau.

“Y ffaith yw bod y grŵp hwn yn hynod fregus o ran dal Covid-19 yn sgil eu cyflyrau iechyd sylfaenol, amodau byw gwael a’r potensial o orfod mynd i sefydliadau gofal iechyd.

“Mae pobl ag afiechyd meddwl wedi eu stigmateddio yn draddodiadol, a llai o werth ar eu bywydau. Mae angen i Lywodraeth Cymru i ddangos arweiniad o ran rhoi gwerth ar eu bywydau, a rhoi’r flaenoriaeth iddynt y maent yn haeddu wrth i ni gyflwyno’r brechlyn.”

Ychwanegodd Cadeirydd Hafal Mair Elliott: “Mae hefyd yn anhraethol bwysig bod gofalwyr yn derbyn y flaenoriaeth briodol, yn enwedig y gofalwyr hŷn sydd yn darparu cymorth hanfodol gan y byddent fel arall yn medru hunan-ynysu. Maent yn  rhoi eu hunain mewn peryg er mwyn darparu cymorth pwysig i’r bobl y maent yn gofalu amdanynt a’r GIG – maent yn haeddu cael eu cydnabod.

“Rwyf yn gwneud cynnig i Lywodraeth Cymru: rhowch y flaenoriaeth i’r grwpiau yma y maent yn ei haeddu a byddem yn hapus i’ch cynorthwyo i gysylltu gyda hwy drwy gyfrwng ein 22 rhwydwaith sirol lleol ar hyd a lled Cymru, a  hyrwyddo pwysigrwydd y brechlyn ymhlith ein grŵp cleient.”

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig