Mae pobl yng Nghymru yn helpu eraill er mwyn diogelu a gwella eu llesiant meddyliol eu hunain
Mae bron tri chwarter o bobl (73 y cant) yng Nghymru yn dewis helpu eraill er mwyn diogelu a gwella eu llesiant meddyliol eu hunain, yn ôl arolwg newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Gofynnodd arolwg diweddaraf panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus i 1,072 o bobl yng Nghymru yn ystod mis Ionawr am gamau gweithredu y maent yn eu cymryd i ddiogelu a gwella eu llesiant meddyliol. Canfu’r arolwg fod bron 9 o bob 10 o bobl (87 y cant) yn gweithredu mewn rhyw ffordd ar hyn o bryd. Ynghyd â helpu eraill, y gweithgareddau poblogaidd eraill oedd:
- Cysylltu â phobl eraill (72 y cant)
- Neilltuo amser ar gyfer hobïau (72 y cant)
- Cysylltu â natur (68 y cant)
- Bod yn gorfforol egnïol (67 y cant)
Canfu’r arolwg fod tri o bob pedwar o bobl (75 y cant) yn ‘cytuno’n gryf’ ei bod yn bwysig i bobl gymryd camau gweithredu i gynnal a gwella eu llesiant meddyliol.
Roedd yr arolwg hefyd yn gofyn i bobl pa mor aml maent yn teimlo’n unig. Dywedodd bron 1 o bob 5 o bobl (18 y cant) yng Nghymru eu bod yn teimlo’n unig “bob amser” neu “yn aml”. Gall unigrwydd effeithio’n negyddol ar ein llesiant meddyliol, ond gall camau bach wneud gwahaniaeth mawr.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.