Y GIG yn cynnig cymorth strwythuredig i helpu pobl ledled Cymru i roi’r gorau i ysmygu y Flwyddyn Newydd yma

Mae manteision rhoi’r gorau i ysmygu yn cael eu hamlygu mewn ymgyrch newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gyda’r nod o helpu pobl i wneud 2026 yn flwyddyn pan fyddant yn rhoi’r gorau i ysmygu am byth.


Wrth i ni gychwyn ar y Flwyddyn Newydd, mae llawer o bobl yn myfyrio ar newidiadau cadarnhaol, gan ei gwneud yn foment berffaith i dorri’r gafael sydd gan ysmygu arnynt. Mae Torri’r Gafael yn canolbwyntio ar yr heriau bywyd real y mae ysmygwyr yn eu hwynebu—boed straen yn y gwaith, neilltuo “amser i mi fy hun”, neu wella ansawdd bywyd. Mae’r ymgyrch yn cynnig cefnogaeth ymarferol drwy wasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu am ddim, dan arweiniad arbenigwyr, gan Helpa Fi i Stopio.


Mae’r rhan fwyaf o ysmygwyr eisiau rhoi’r gorau iddi, ac mae llawer yn gwneud ymdrechion ar eu pennau eu hunain bob blwyddyn. Ond mae tystiolaeth yn dangos bod defnyddio cefnogaeth strwythuredig gan y GIG yn cynyddu’r siawns o lwyddo yn sylweddol. Mae Helpa Fi i Stopio yn cynnig cyngor am ddim, wedi’i arwain gan arbenigwyr a’i deilwra i’w hanghenion, ar amser a lle sy’n addas iddyn nhw—ynghyd â Therapi Amnewid Nicotin (NRT) AM DDIM neu feddyginiaeth rhoi’r gorau i ysmygu arall.


Nid yn unig y mae rhoi’r gorau i ysmygu yn llesol i iechyd—gall drawsnewid sefyllfa ariannol rhywun. Gyda phecyn o 20 o sigaréts bellach yn costio £16.45, mae rhywun sy’n ysmygu pecyn y dydd yn gwario dros £115 yr wythnos, sef tua £6000 y flwyddyn – arian y gellid ei gynilo neu ei wario ar bethau sy’n wirioneddol bwysig.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig