Lansio ap dwyieithog i helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu yng Nghymru
Bydd ap newydd yn cynnig cymorth personol, dwyieithog a rhad ac am ddim i helpu pobl i roi’r gorau i ysmygu am byth ledled Cymru.
Mae ap ffôn symudol newydd Helpa Fi i Stopio Iechyd Cyhoeddus Cymru yn darparu llwybr ychwanegol i bobl sydd eisiau rhoi’r gorau iddi gyda chymorth digidol hyblyg, gan gynnwys y rhai nad ydynt o bosibl eisiau defnyddio gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu traddodiadol.
Ysmygu yw prif achos marwolaethau a chlefydau y gellir eu hatal ymhlith oedolion hŷn na 35 oed yng Nghymru o hyd. Mae’n achosi cyfartaledd o 3,845 o farwolaethau, sef 10 y cant o’r holl farwolaethau yn y grŵp oedran hwn a thros 17,000 o dderbyniadau i’r ysbyty bob blwyddyn.
Er bod cyfraddau ysmygu yn parhau i ostwng, mae llawer o bobl yn dal i geisio rhoi’r gorau iddi heb gymorth, er gwaethaf tystiolaeth sy’n dangos bod defnyddio gwasanaethau rhoi’r gorau i ysmygu arbenigol y GIG yn rhoi’r cyfle gorau i bobl roi’r gorau iddi am byth.
Mae’r ap yn lansio ar Ddiwrnod Dim Ysmygu (dydd Mercher 11 Mawrth 2026), sef diwrnod cenedlaethol sy’n annog ac yn ysgogi pobl i gymryd y cam cyntaf tuag at fywyd iachach, di-fwg.
Mae’n cynnig cymorth ymddygiad sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gall pobl ei ddefnyddio 24/7, ac mae’n cyfeirio defnyddwyr at wasanaethau arbenigol Helpa Fi i Stopio am gymorth pellach. Mae hefyd yn galluogi defnyddwyr i osod dyddiad rhoi’r gorau i ysmygu, cofnodi a ydynt yn ysmygu a phryd, cofnodi cymhellion, ac olrhain cynnydd dros amser. Mae’r offer yn cynnwys cyfrifiannell sy’n dangos arian a arbedwyd a gwelliannau iechyd ers rhoi’r gorau iddi, ochr yn ochr â chynnwys ysgogol fel fideos i helpu pobl i reoli chwantau a sbardunau.
Mae’r lansiad hwn yn cefnogi galwad ehangach Iechyd Cyhoeddus Cymru i wneud dewisiadau iach yn haws yn ein bywyd bob dydd. Mae creu amgylcheddau lle mae tybaco a chynhyrchion fepio yn llai gweladwy, yn llai deniadol ac nad ydynt bellach yn cael eu gweld fel rhan arferol o fywyd bob dydd yn helpu pobl sy’n ceisio rhoi’r gorau iddi ac yn atal cenedlaethau’r dyfodol rhag dechrau.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.