Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu galwad y Prif Swyddog Meddygol am newid i ddull atal yn gyntaf o ymdrin ag iechyd
Mae adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol wedi galw am newid i ddull atal yn gyntaf o ymdrin ag iechyd ac yn tynnu sylw at y ffaith bod mentrau atal llwyddiannus wedi dangos y potensial ar gyfer gwelliannau yn iechyd y boblogaeth.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cydnabod bod Cymru yn wynebu heriau iechyd sylweddol. Mae hyn yn cynnwys bwlch o 20 mlynedd mewn disgwyliad oes iach i fenywod rhwng yr ardaloedd lleiaf a mwyaf difreintiedig. Ac mae tair gwaith yn fwy o farwolaethau y gellir eu hosgoi yn ein cymunedau mwyaf difreintiedig.
Mae’r bylchau hyn yn annheg a gellir eu hosgoi.
Mae gwahaniaethau iechyd y gellir eu hatal yn her sylweddol i rai pobl a theuluoedd, yr economi, a GIG Cymru a, heb newid, bydd anghydraddoldebau iechyd yn parhau i gostio £322 miliwn y flwyddyn mewn costau ysbytai yn unig.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.