Ewch i’r afael â dibyniaeth, gwelededd, ac argaeledd er mwyn mynd i’r afael â’r cynnydd cyflym mewn fepio ymhlith pobl ifanc, meddai arbenigwyr iechyd cyhoeddus
Dylid blaenoriaethu cymorth dros gosbi wrth helpu pobl ifanc sydd am roi’r gorau i fepio, yn ôl arbenigwyr iechyd cyhoeddus.
Mae’r argymhelliad yn un o’r arferion gorau a nodwyd gan y Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad (IRG)* a gynullwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymchwilio i’r cynnydd pryderus mewn fepio ymhlith plant a phobl ifanc. Ymhlith yr argymhellion eraill mae mesurau polisi i gyfyngu ar welededd, apêl ac argaeledd fêps i bobl ifanc, fel gwaharddiad ar ddyfeisiau tafladwy, cyflwyno pecynnau plaen, a chyfyngiadau ar enwau blasau fêps.
Yn ei adroddiad terfynol a gyhoeddir heddiw, mae’r IRG yn argymell y dylid ystyried fepio fel mater dibyniaeth, yn hytrach n a gweithred o gamymddwyn bwriadol ac y dylai gwasanaethau cymorth adlewyrchu hynny. Yn ogystal â hyn, mae’r IRG hefyd yn argymell y dylai pobl ifanc sydd ag angen penodol mewn perthynas â’u dibyniaeth gael mynediad at therapïau disodli nicotin (NRT). Mae therapïau disodli eisoes ar gael i unrhyw un dros 12 oed sy’n smygu. Gall NRT gynnwys gwm cnoi, clytiau croen, neu anadlyddion.
Mae’r IRG yn gwneud argymhellion pellach ar gyfer mesurau rheoli polisi i gyfyngu ar welededd, apêl ac argaeledd fêps i blant a phobl ifanc:
- Dadnormaleiddio fepio – Ni ddylid caniatáu fepio mewn mannau sydd wedi’u bwriadu ar gyfer plant a phobl ifanc yn bennaf. Dylid gwneud hyn drwy annog lleoliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc i ddatblygu polisïau dim fepio.
- Pecynnau ac arddangos – Mae cyfyngu ar hysbysebu, pecynnau ac arddangos fêps yn debygol o fod yn un o’r mesurau mwyaf effeithiol ar gyfer mynd i’r afael â fepio ymhlith plant a phobl ifanc yng Nghymru.
- Dyfeisiau tafladwy – Dylid gwahardd gwerthu a chyflenwi dyfeisiau tafladwy (untro).
- Blasau – Dylid cyfyngu blasau yn gyfreithiol i restr benodol o ddisgrifyddion sylfaenol fel tybaco, mintys, menthol a ffrwythau.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.