Mae adnoddau newydd ar gael i helpu’r gweithlu gofal sylfaenol i hyrwyddo ymddygiad iachach

Mae Adran Gofal Sylfaenol Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi lansio’r ddau gynnyrch cyntaf mewn cyfres o adnoddau i helpu staff mewn gofal sylfaenol i gael sgyrsiau er mwyn cefnogi pobl i fabwysiadu ymddygiad iachach. 

Mae’r adnoddau wedi’u targedu at wahanol rannau o’r gweithlu gofal sylfaenol, gyda’r ddau gyhoeddiad cyntaf ar gyfer y rhai sy’n gweithio mewn meddygaeth deulu ac optometreg. Mae’r adnoddau hyn wedi’u cynllunio i helpu’r gweithlu rheng flaen i ddechrau sgyrsiau am ymddygiad iach a chyfeirio pobl i ragor o wybodaeth, yn ogystal â nodi camau gwella ansawdd i wasanaethau.  

Mae’r adnoddau’n trafod ymddygiad iechyd allweddol, mewn perthynas â smygu, alcohol, pwysau iach, gweithgarwch corfforol, ac atal diabetes math 2, ynghyd â gwybodaeth ynghylch Gwneud i Bob Cyswllt Gyfrif a phresgripsiynu cymdeithasol.  

Mae’r adnoddau hefyd yn atgoffa staff i feddwl am eu hymddygiad iechyd eu hunain, ac y gallan nhw hefyd gael mynediad i’r gwasanaethau cymorth a amlinellir.  

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig