Croesawu rheoliadau fepio newydd wrth i’r defnydd o fêps gynyddu ymhlith pobl ifanc
Mae bron un o bob chwech o fyfyrwyr blwyddyn 11 yng Nghymru (15.9 y cant) yn defnyddio fêps yn rheolaidd, yn ôl data newydd. Mae dros 45 y cant o fyfyrwyr ym mlwyddyn 11 yn dweud eu bod wedi rhoi cynnig ar fêp.
Yn y cyfamser, dim ond 5.5 y cant o fyfyrwyr ym mlwyddyn 11 sydd bellach yn smygu’n rheolaidd, i lawr o 7.5 y cant yn 2021.
Mae llai na thri y cant (2.7) o fyfyrwyr ym mlynyddoedd 7-11 yn smygu’n rheolaidd. Mae mwyafrif y rhain hefyd yn fepio.
Mae’r data newydd hyn, gan Y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion, yn cael eu cyhoeddi wrth i Lywodraeth y DU gyflwyno Bil Tybaco a Fêps a fydd yn paratoi’r ffordd ar gyfer cyfyngiadau ar farchnata a gwerthu tybaco, fêps a chynhyrchion eraill.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu darpariaethau’r Bil newydd. Mae’r rhain yn cynnwys gwahardd gwerthu tybaco i unrhyw un a anwyd ar ôl 1 Ionawr 2009, rhagor o bwerau i ddod â phecynnu fêps yn unol â chynhyrchion tybaco, a chryfhau gorfodi o amgylch gwerthu fêps.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.