Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu gwaharddiad ar anweddau tafladwy
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi croesawu cyflwyno’r gwaharddiad ar fêps untro, a ddaw i rym yng Nghymru ac ar draws y DU ddydd Sul 1 Mehefin. Mae consensws clir ymhlith arbenigwyr iechyd bod argaeledd a marchnata cynhyrchion fêps untro wedi ysgogi cynnydd sylweddol mewn fepio ymhlith plant a phobl ifanc, gyda bron 1 o bob 6 (16 y cant) o fyfyrwyr blwyddyn un ar ddeg yn defnyddio fêps yn rheolaidd a bron hanner wedi rhoi cynnig ar fepio*. Nid yw’r rhan fwyaf o’r bobl ifanc hyn erioed wedi smygu cyn dechrau fepio.
Bydd Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024 yn mynd i’r afael â phryderon amgylcheddol ac iechyd ynghylch twf fêps untro. Mae’r rhain wedi cynnig cynnyrch rhad, hawdd ei ddefnyddio ac sydd ar gael yn eang sydd wedi bod yn ddeniadol ac yn hawdd ei gyrraedd i blant a phobl ifanc, er ei bod yn anghyfreithlon gwerthu fêps nicotin i bobl ifanc o dan 18 oed, neu i oedolion eu prynu ar gyfer y grŵp oedran hwn.
Mae’r rhan fwyaf o fêps yn cynnwys nicotin, sy’n sylwedd caethiwus a gall defnydd rheolaidd arwain at ysfeydd, yn ogystal ag effeithio ar y gallu i ganolbwyntio, y cof a’r gallu i ddysgu. Gall diddyfnu o nicotin effeithio ar gwsg, achosi cur pen, effeithio ar lesiant meddyliol a chreu hwyliau oriog.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.