Mae cynnydd treth ar fwydydd sy’n ddwys mewn egni a thybaco yn lleihau anghydraddoldeb iechyd

Mae adolygiad o dystiolaeth ryngwladol ar sut i leihau anghydraddoldebau mewn iechyd wedi canfod bod cynnydd treth ar dybaco a bwydydd egni uchel, gyda chymorthdaliadau ar ffrwythau a llysiau, yn gweithio’n dda i leihau bylchau mewn iechyd rhwng y cyfoethocaf a’r tlotaf.  

Er bod anghydraddoldebau o ran disgwyliad oes iach wedi parhau’n sefydlog, mae’r bwlch o ran pa mor hir y gall rhywun ddisgwyl byw rhwng y poblogaethau lleiaf a mwyaf difreintiedig yng Nghymru wedi bod yn cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf ar gyfer dynion a menywod. Mae’r aelwydydd tlotaf hefyd yn cael eu taro galetaf gan yr argyfwng costau byw ac mae hyn yn ehangu’r bylchau ymhellach rhwng y rhai sydd â’r iechyd gorau a’r iechyd gwaethaf. 

Ceisiodd yr adroddiad Nodi Tystiolaeth i Gynorthwyo Camau Gweithredu i Leihau Anghydraddoldebau Economaidd-gymdeithasol mewn Iechyd, a gomisiynwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a’i gynnal gan Brifysgol John Moores Lerpwl, ddeall y bwlch hwn yn well. 

Nododd yr adroddiad feysydd allweddol lle mae tystiolaeth yn dangos bod camau gweithredu yn cael effeithiau cadarnhaol ar anghydraddoldebau iechyd ac mae’r rhain yn cynnwys:  

  • Cynnydd pris/treth ar dybaco a bwydydd dwysedd egni uchel a chymorthdaliadau ar ffrwythau a llysiau, ynghyd â pholisïau di-fwg cynhwysfawr. 
  • Targedu help a gwybodaeth tuag at bobl mewn grwpiau economaidd-gymdeithasol isel, er enghraifft cynorthwyo â llywio’r system gofal iechyd, addysg rhieni, a hyrwyddo bwydo ar y fron. 
  • Rhaglenni cymhorthdal bwyd a gwella cyflwr tai.  

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig