Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer mynd i’r afael â fêpio ymhlith dysgwyr oedran ysgol uwchradd

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi llunio adnodd gwybodaeth a chanllawiau ar fêpio i ddysgwyr oedran ysgol uwchradd yng Nghymru. Mae’r ddogfen yn darparu data a gwybodaeth sy’n seiliedig ar dystiolaeth i ysgolion gan gynnwys sut y gallant ymateb i fêpio a mynd i’r afael ag ef yn eu lleoliad drwy bolisi, arferion, a chynnwys y cwricwlwm. 

Datblygwyd y canllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dilyn cais gan Lywodraeth Cymru. Mae pryder wedi bod yn cynyddu ynghylch y mater hwn dros y blynyddoedd diwethaf. Mae ffigurau o Arolwg Iechyd a Llesiant Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion yn dangos bod 20% o bobl ifanc o Flwyddyn 7 i Flwyddyn 11 yn dweud eu bod wedi rhoi cynnig ar fêpio, gyda 5% o ddisgyblion ysgol uwchradd yng Nghymru yn fêpio o leiaf unwaith yr wythnos. Canfu arolwg ciplun diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru o ddisgyblion ym mlynyddoedd 7 a 10 o sampl fach o ysgolion uwchradd yng Nghymru fod cyfran y disgyblion blwyddyn 10 sy’n fêpio bob dydd tua naw y cant.  Ymhlith y rhai sy’n fêpio bob dydd, dangosodd tua dwy ran o dair ohonynt arwyddion o ddibyniaeth gymedrol neu uchel ar nicotin gan ddefnyddio mesur wedi’i ddilysu. 

Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynnull Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad yn gynharach eleni yn dilyn adroddiadau cynyddol o fêpio ymhlith disgyblion gan y rhai sy’n gweithio gyda phlant a phobl ifanc yng Nghymru. Mae’r Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad yn bwriadu datblygu dealltwriaeth o’r broblem fêpio ymhlith pobl ifanc, nodi’r achosion, a sefydlu argymhellion i liniaru’r niwed posibl. 

Meddai Dr Julie Bishop, Cyfarwyddwr Gwella Iechyd yn Iechyd Cyhoeddus Cymru: “Mae ein gwaith gyda’r Grŵp Ymateb i Ddigwyddiad amlasiantaethol wedi tynnu sylw at heriau newydd sylweddol y mae ein hysgolion a’n colegau yn eu profi wrth ymateb i fêpio ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Rydym yn gobeithio y bydd y canllawiau cynhwysfawr hyn yn gam cyntaf wrth gynorthwyo staff addysg i fynd i’r afael â’r mater cynyddol hwn.” 

Meddai Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Jeremy Miles: “Ni ddylai unrhyw un o dan 18 fod yn fêpio. Fodd bynnag, mae ysgolion yn dweud wrthym fod hwn yn fater gwirioneddol, p’un ai oherwydd pwysau cyfoedion, marchnata lliwgar wedi’i dargedu at blant neu ddiffyg dealltwriaeth o’r risgiau iechyd posibl. Rwy’n gobeithio y bydd y canllawiau newydd hyn yn helpu disgyblion i ddeall effaith fêpio fel y gallant wneud y penderfyniadau cywir. 

“Mae ein cwricwlwm newydd yn rhoi’r hyblygrwydd i athrawon addasu eu gwersi i weddu i faterion a heriau sy’n wynebu eu disgyblion. Dylai hyn gynnwys dysgu am effeithiau fêpio ar iechyd a llesiant. Mae’r holl ysgolion uwchradd bellach yn dysgu’r cwricwlwm hwn i flynyddoedd 7 ac 8, a bydd yr adnodd hwn yn helpu i gynorthwyo pob disgybl ysgol uwchradd.” 

Meddai’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, Lynne Neagle: “Nid oes lle i fêps ymhlith plant a phobl ifanc ac mae cynorthwyo pobl i gael plentyndod di-fwg yn flaenoriaeth. 

“Mae rhoi’r offer sydd eu hangen ar ein pobl ifanc i gadw’n iach yn ffordd bwysig y gallwn eu helpu i wella eu hiechyd a’u llesiant. Bydd y canllawiau hyn yn helpu ysgolion i dynnu sylw at risgiau iechyd fêpio a chynorthwyo pobl ifanc a allai fod yn gaeth ac sy’n dymuno rhoi’r gorau iddi.”

Gwybodaeth a Chanllawiau ar Fêpio i Ddysgwyr Oedran Uwchradd yng Nghymru

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig