Bydd rhaglen sgrinio canser yr ysgyfaint genedlaethol i Gymru yn achub bywydau, medd arbenigwyr iechyd
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu cynlluniau ar gyfer rhaglen sgrinio’r ysgyfaint genedlaethol, a fydd yn galluogi diagnosis a thriniaeth gynharach o ganserau ac yn y pen draw yn achub bywydau.
Daw penderfyniad Llywodraeth Cymru i gyflwyno sgrinio ar gyfer ysmygwyr presennol a chyn-ysmygwyr rhwng 55 a 74 oed yn dilyn cyngor a gafodd ym mis Mawrth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Bydd y gwasanaeth yn cael ei gyflwyno’n raddol. Bydd y rhai sydd ym mhen uchaf yr ystod oedran gymwys yn cael eu gwahodd yn gyntaf. Disgwylir gwahodd y cyfranogwyr cyntaf i gael eu sgrinio yn 2027.
Gofynnwyd i Iechyd Cyhoeddus Cymru roi cyngor ar gyflwyno rhaglen sgrinio’r ysgyfaint genedlaethol ar ôl iddi gael ei phrofi yng Ngogledd Rhondda.
Fel rhan o’r peilot, cynhaliwyd 600 o sganiau gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith Canser. Arweiniodd hyn at ddiagnosis o 12 o ganserau’r ysgyfaint, a darganfuwyd dwy ran o dair ohonynt yn gynnar.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.