Mae dros 10 y cant o farwolaethau yng Nghymru oherwydd smygu
Mae dadansoddiad newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos, ar gyfartaledd, bod 3,845 o farwolaethau yng Nghymru yn 2022 oherwydd smygu yng Nghymru bob blwyddyn rhwng 2020 a 2022: roedd mwy nag un o bob deg o’r holl farwolaethau ymhlith y rhai dros 35 oed.
Mae’r dadansoddiad newydd (Saesneg yn unig) yn amlygu effaith sylweddol smygu ar iechyd ledled y wlad, gan bwysleisio hefyd yr anghydraddoldebau amlwg rhwng y cymunedau â’r amddifadedd mwyaf a’r cymunedau â’r amddifadedd lleiaf, gyda chyfradd y marwolaethau y gellir eu priodoli i smygu dair gwaith yn uwch yn y cymunedau â’r amddifadedd mwyaf o gymharu cymunedau â’r amddifadedd lleiaf.
Yn ogystal â bod yn brif achos salwch a marwolaeth y gellir eu hatal, dangosodd y dadansoddiad hefyd fod, ar gyfartaledd, mwy na 17,000 o dderbyniadau i’r ysbyty bob blwyddyn yng Nghymru i’w priodoli i smygu, gan ychwanegu pwysau sylweddol ar y system gofal iechyd. Roedd cyfraddau’r derbyniadau i’r ysbyty y gellir eu priodoli i smygu hefyd ddwywaith yn uwch i drigolion yn y cymunedau â’r amddifadedd mwyaf o gymharu â’r rhai yn y cymunedau â’r amddifadedd lleiaf.
Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn croesawu’r cyhoeddiad yn Araith y Brenin y bydd y Bil Tybaco a Fêps, a gyflwynwyd gyntaf gan lywodraeth flaenorol y DU, yn dychwelyd i’r Senedd yn y tymor presennol. Croesawodd Iechyd Cyhoeddus Cymru ddarpariaethau’r Bil blaenorol, gan gynnwys gwahardd gwerthu tybaco i bawb a anwyd ar ôl 1 Ionawr 2009 fel cam pwysig tuag at leihau niwed smygu i boblogaeth Cymru.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.