Gellid Atal Bron i Hanner yr Achosion o Ddementia Drwy Newidiadau i Ffordd o Fyw

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn tynnu sylw at bwysigrwydd iechyd yr ymennydd yn dilyn adolygiad o dystiolaeth ryngwladol sy’n dangos y gellid atal hyd at 45 y cant o achosion o ddementia. 

Er bod dementia yn aml yn cael ei ystyried yn rhan anochel o heneiddio, mae tystiolaeth gynyddol yn dangos bod newidiadau i ffordd o fyw ac amgylcheddol yn chwarae rhan sylweddol wrth leihau risg. 

Mae dementia yn her iechyd fyd-eang fawr sydd ar gynnydd. Yn 2019, amcangyfrifwyd bod 57 miliwn o bobl ledled y byd yn byw gyda’r cyflwr, ffigur yr amcangyfrifir y bydd yn codi i 153 miliwn erbyn 2050. Ar hyn o bryd, dyma’r seithfed prif achos marwolaeth yn fyd-eang ac mae’n cyfrannu’n helaeth at anabledd ymhlith oedolion hŷn.  

Mae’r effaith economaidd hefyd yn sylweddol, a gwnaeth costau byd-eang gyrraedd 1.3 triliwn o ddoleri yn 2019 a disgwylir iddynt fwy na dyblu erbyn 2030. Mae’r ffigurau hyn yn tynnu sylw at yr angen brys am strategaethau atal a all leihau baich dynol ac ariannol dementia. 

Mae ymchwil yn awgrymu y gellid atal hyd at 45 y cant o achosion o ddementia drwy fynd i’r afael â 14 ffactor risg y gellir eu haddasu ar draws cwrs bywyd. Mae’r rhain yn cynnwys anweithgarwch corfforol, ysmygu, yfed gormod o alcohol, colli clyw a golwg heb eu trin, ynysigrwydd cymdeithasol, a chyflyrau fel pwysedd gwaed uchel, diabetes a gordewdra. Mae’r dystiolaeth hon yn herio’r safbwynt hirhoedlog bod dementia yn rhan anochel o heneiddio ac yn tynnu sylw at bwysigrwydd gweithredu’n gynnar ac yn barhaus i amddiffyn iechyd yr ymennydd. 

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig