Nifer y bobl sy’n mynychu rhaglenni nodwyddau a chwistrellau diogel yn gostwng 27 y cant

Roedd nifer y bobl sy’n mynychu rhaglenni nodwyddau a chwistrellau (NSP) yn rheolaidd yng Nghymru er mwyn cael mynediad at offer diogel i chwistrellu cyffuriau, wedi gostwng mwy na chwarter yn 2021-22, o gymharu â 2019-20.

Mae’r ffigurau, a ddatgelwyd yn adroddiad blynyddol Iechyd Cyhoeddus Cymru o weithgarwch NSP, yn dangos newid sylweddol o ran nifer yr unigolion sy’n mynychu’r gwasanaeth yn rheolaidd, a phroffil defnyddwyr gwasanaethau hefyd, ar ôl codi’r cyfyngiadau yn ystod y pandemig.

Mae canfyddiadau eraill o’r adroddiad yn dangos bod chwarter o bobl sy’n chwistrellu sylweddau seicoweithredol fel heroin a chrac cocên yn dweud eu bod yn rhannu nodwyddau a chwistrellau ag eraill, ac mae traean yn rhannu offer fel llwyau, hidlenni a dŵr.

Mae’r adroddiad hefyd yn cynnwys amcangyfrif o gwmpas y gwasanaeth NSP, sef y gyfran o ‘ddigwyddiadau’ chwistrellu pan fo offer chwistrellu wedi’i ddiheintio yn cael ei ddefnyddio, sy’n nodi cyfradd o 22 y cant.  Mae hyn yn cynrychioli risg glir o heintiau bacterol a throsglwyddo feirysau yn y gwaed drwy ailddefnyddio a rhannu offer chwistrellu ymhlith pobl sy’n chwistrellu cyffuriau.

Yn ogystal, mae cyfran y bobl 50 oed a throsodd sy’n cael mynediad at wasanaethau NSP wedi cynyddu dros y pum mlynedd diwethaf ar draws pob grŵp sylweddau – opioidau, ysgogyddion ac IPEDS (cyffuriau i wella delwedd a pherfformiad).

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig