Cyhoeddi’r data diweddaraf ar gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru

Roedd cyfanswm o 869 o waharddiadau mewn ysgolion o ganlyniad i alcohol neu gyffuriau ymhlith plant oedran ysgol yn 2022-23. Mae hynny’n gynnydd o 119 y cant o 2020-21 ac i fyny 16.5 y cant o 2018-19. Dyma’r nifer uchaf o waharddiadau ers 2011-12. Mae’r ffigurau hyn wedi’u hamlygu yn adroddiad Cloddio Data Cymru – adroddiad ystadegol blynyddol sy’n crynhoi data camddefnyddio sylweddau ar gyfer Cymru. Ei nod yw archwilio’n well y dystiolaeth o gamddefnyddio sylweddau dros gwrs bywyd, gan ddechrau gyda’r cyfnod cynenedigol, drwy blentyndod ac ymgorffori ieuenctid ac oedolion hŷn.  

Roedd 4,960 o blant yng Nghymru yn derbyn gofal a chymorth oherwydd camddefnyddio sylweddau gan rieni yn 2022/23. Nifer y plant sy’n derbyn gofal a chymorth am gamddefnyddio sylweddau eu hunain oedd 630. Yn y cyfamser, roedd cyflyrau alcohol yn cyfrif am niferoedd is o bobl ifanc o dan 25 oed a dderbyniwyd i’r ysbyty, sef gostyngiad o 34.6 y cant o gymharu â’r flwyddyn flaenorol. 

Ar gyfer oedolion 25-49 oed, roedd nifer y derbyniadau i’r ysbyty oherwydd gwenwyno gan gyffuriau anghyfreithlon wedi gostwng 10.6 y cant yn y flwyddyn ddiwethaf, o 4,859 yn 2021-22 i 4,342 yn 2022-23. O gymharu â 2018-19, bu gostyngiad o 27.6 y cant mewn derbyniadau oherwydd cyffuriau anghyfreithlon. Pan fydd derbyniadau i’r ysbyty oherwydd cyffuriau anghyfreithlon yn digwydd, mae opioidau yn parhau i gyfrif am lawer mwy o dderbyniadau nag unrhyw grŵp arall o sylweddau anghyfreithlon. Roedd 38.3% o dderbyniadau i’r ysbyty oherwydd cyffuriau anghyfreithlon yng Nghymru yn 2022-23 yn sgil opioidau. 

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig