£8m ar gyfer ymestyn gwasanaethau cymorth cyflogaeth

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron i £8m er mwyn i dri gwasanaeth cyflogaeth allu parhau i helpu pobl sy’n adfer o afiechydon corfforol, problemau iechyd meddwl, a phroblemau camddefnyddio sylweddau i gael gwaith ac i barhau yn eu swyddi.

Bydd y Gwasanaeth Di-waith a’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith, sy’n helpu pobl i ailadeiladu eu bywydau, yn cael eu hymestyn hyd at 2025.

Mae’r Gwasanaeth Di-waith yn helpu’r bobl fwyaf agored i niwed a’r rheini sydd wedi ymbellhau o’r farchnad lafur. Mae’n canolbwyntio ar roi cymorth tymor hir i bobl sy’n adfer o broblemau iechyd meddwl a phroblemau camddefnyddio sylweddau. Mae’r gwasanaeth yn darparu cymorth drwy rwydwaith cenedlaethol o fentoriaid sydd wedi mynd drwy brofiadau tebyg eu hunain, ac sydd wedi adfer ar ôl cael problemau iechyd meddwl neu gamddefnyddio sylweddau.

Myw o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig