Cryfhau cymorth i bobl ifanc a theuluoedd ar gyfer mynd i’r afael â chamddefnyddio sylweddau

Mae Llywodraeth Cymru wrthi’n ymgynghori ynghylch Fframwaith Triniaeth Camddefnyddio Sylweddau ar gyfer plant a phobl ifanc. Bwriad y fframwaith yw cynorthwyo darparwyr ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a chyfiawnder troseddol i ddarparu gwasanaethau atal a thrin o ansawdd uchel i’r rhai sydd mewn perygl o gael problemau camddefnyddio sylweddau, neu sy’n profi problemau o’r fath.

Mae dros 500 o blant yng Nghymru yn cael cymorth er mwyn gweithredu ar gamddefnyddio sylweddau, tra bo mwy na 4,000 yn cael gofal a chymorth gan fod eu rhieni â phroblemau camddefnyddio sylweddau.

Mae Llywodraeth Cymru am wella gwasanaethau i bobl hyd at 25 oed, gan sicrhau bod modd asesu anghenion unigolion yn well, a datblygu model ar gyfer un gwasanaeth i bobl sydd ag anghenion lluosog neu gymhleth.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r galw am gymorth i blant a phobl ifanc yng nghyswllt camddefnyddio sylweddau wedi cynyddu. Mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei chyllid sydd wedi’i glustnodi yn 2022-23 i £3.75 miliwn – sef £1 filiwn o gynnydd – ac mae wedi ymrwymo i godi’r swm hwnnw i £6.25 miliwn erbyn 2024-25 er mwyn helpu i gwrdd â’r galw.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig