Iechyd Cyhoeddus Cymru yn annog pecynnau plaen, gwaharddiad ar fêps tafladwy a dim arddangosfeydd manwerthu ar gyfer fêps
Dylai’r un cyfyngiadau sy’n berthnasol ar hyn o bryd i gynhyrchion tybaco gael eu cymhwyso i farchnata, pecynnu ac arddangos e-sigaréts, yn ôl ymateb Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymgyngoriad newydd.
Yn ei ymateb i ymgynghoriad gan Lywodraeth y DU ar fynd i’r afael â smygu a fepio ymhlith pobl ifanc, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd wedi ailddatgan ei gefnogaeth gref ar gyfer codi oedran gwerthu tybaco yn y DU.
Mae’r sefydliad hefyd yn cefnogi gwaharddiad llwyr ar fêps tafladwy, gan fod cysylltiad cryf rhwng y rhain â chynnydd mewn fepio ymhlith plant a phobl ifanc, yn ogystal â niwed amgylcheddol clir.
Er y gall fêps helpu oedolion sy’n smygu i roi’r gorau iddi, mae cynnydd mewn fepio ymhlith y rhai nad ydynt erioed wedi smygu, yn enwedig plant a phobl ifanc, yn codi pryderon bod cwmnïau’n targedu marchnadoedd newydd ar gyfer dibyniaeth ar nicotin. Mae sicrhau na ellir marchnata cynhyrchion mewn ffyrdd sy’n apelio at blant a phobl ifanc yn hanfodol i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.
Ymunwch â ni yn ein gweminar i ddarganfod mwy.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.