Adroddiad Arwain y Newid

Mae adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan ukactive ‘Leading the Change: social prescribing within the fitness and leisure sector’, yn galw ar y Llywodraeth a’i hasiantaethau i sylweddoli potensial cyfleusterau ffitrwydd a hamdden i gynorthwyo pobl trwy bresgripsiynu cymdeithasol i leihau pwysau ar y GIG.

Mae presgripsiynu cymdeithasol yn cysylltu pobl â chymorth cymunedol yn seiliedig ar yr hyn sy’n eu diddori, ac yn helpu i fynd i’r afael â materion sy’n effeithio ar eu hiechyd a’u llesiant. Gan weithio ar y cyd â meddygon teulu, mae gweithwyr cyswllt presgripsiynu cymdeithasol yn cysylltu pobl â gweithgareddau fel grwpiau ffitrwydd, nofio, cerdded, dawnsio, rhedeg, neu arddio, yn dibynnu beth mae’r person yn ei hoffi a’r hyn fydd o fudd iddynt.

Mae’r sector ffitrwydd a hamdden eisoes yn chwarae rhan fawr mewn gofal iechyd cymunedol, fel adsefydlu ar ôl COVID-19 a chyflyrau cardiaidd, pwlmonaidd a chyhyrysgerbydol, yn ogystal â 66% o wasanaethau cyn adsefydlu ac adsefydlu ar ôl canser y genedl.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig