‘Bysiau cerdded’ yn dangos cynnydd yn nifer y rhai sy’n teithio’n llesol

Mae ymchwil gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnal arolwg o’r dirwedd dystiolaeth ynghylch ymyriadau i gynyddu teithio llesol, wedi dangos bod cyflwyno mentrau ‘bws cerdded’ ymhlith y cynlluniau sy’n fwyaf tebygol o gynyddu nifer y plant sy’n cerdded i’r ysgol.

Edrychodd yr ymchwil ar astudiaethau o ymyriadau a oedd wedi digwydd yn y DU ac yn rhyngwladol, asesu eu heffeithiolrwydd, a thynnu sylw at yr hyn i’w ystyried nesaf os yw gwneuthurwyr polisi yn bwriadu gweithredu ymyriad tebyg.

Mae bysiau cerdded yn cynnwys rhieni gwirfoddol sy’n hebrwng grwpiau o blant wrth iddynt gerdded i’r ysgol, ac mae’r mentrau hyn wedi cael eu gweithredu mewn amrywiaeth o ardaloedd gwahanol, gyda’r holl astudiaethau a archwiliwyd o blaid y gweithgareddau.

Yn ogystal, mae’r ymchwil wedi dangos bod cynyddu addysg a hyrwyddo cyfleoedd teithio llesol wedi cael effaith gadarnhaol ar nifer y bobl sy’n dewis teithio ar feic neu gerdded.

Ystyriwyd cynnydd mewn mesurau addysgol, fel darparu pecynnau gwybodaeth, a hyfforddi cydlynwyr eco-deithio, ynghyd â gweithgareddau marchnata fel digwyddiadau dathlu a theithiau cerdded tywysedig.

Roedd prosiectau llwyddiannus eraill yn cynnwys ymgyrchoedd cenedlaethol yn y cyfryngau i dargedu gweithwyr a’u hannog i gerdded yn hytrach na gyrru, a mentrau amlweddog a weithredwyd ar draws tref neu ranbarth i gynyddu beicio.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig