#Ymgyrch Amser Gyda’n Gilydd i ysbrydoli merched yn eu harddegau a mamau i ailgysylltu trwy fod yn egnïol

Mae pandemig COVID-19 wedi arwain at ostyngiad mewn lefelau gweithgaredd ymysg merched yn eu harddegau a’u mamau tra bod amser ar-lein wedi cynyddu’n sylweddol. Nod #AmserGyda’nGilydd yw annog ac ysbrydoli merched yn eu harddegau a’u mamau/ffigur mamol i ailgysylltu a bod yn egnïol gyda’i gilydd.

Mae ymchwil newydd gan Fenywod mewn Chwaraeon yn datgelu bod 89% o ferched yn credu bod bod yn egnïol yn gorfforol yn bwysig ar gyfer teimlo’n dda amdanynt eu hunain ond mae dros hanner merched (55%) wedi colli hyder yn eu gallu o ran chwaraeon ers dechrau’r cyfnodau clo.

Trwy gydol mis Hydref, mae #AmserGyda’nGilydd yn dathlu’r ffaith fod bod yn egnïol gyda’i gilydd yn gwneud i ferched a mamau/ffigur mamol ganfod ffyrdd newydd o fod yn egnïol a threulio amser gyda’i gilydd yn gwneud gweithgareddau fel dawnsio, cerdded, dringo a nofio gyda’i gilydd.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig