Cynnydd mewn gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru

Mae gweithgarwch corfforol ymhlith disgyblion ysgolion uwchradd yng Nghymru wedi cynyddu, gan wrthdroi dirywiad a ddechreuodd yn 2017.  Mae bellach yn debyg i lefelau cyn y pandemig, yn ôl data newydd ar ddisgyblion yng Nghymru o ganlyniadau arolwg iechyd a llesiant y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd Mewn Ysgolion (SHRN) a ryddhawyd heddiw.

Mae’r arolwg SHRN sy’n canolbwyntio ar Gymru yn un o’r arolygon mwyaf o ddisgyblion ysgol yn y DU. Bob dwy flynedd mae’n gofyn cwestiynau ar amrywiaeth o bynciau gan gynnwys llesiant meddyliol, defnyddio sylweddau a bywyd ysgol. Cafodd yr arolwg diweddaraf ei gwblhau gan bron 130,000 o ddysgwyr ym mlynyddoedd 7 i 11, mewn 200 o ysgolion uwchradd a gynhelir ledled Cymru.  

Mae SHRN yn gydweithrediad rhwng Iechyd Cyhoeddus Cymru, Prifysgol Caerdydd a Llywodraeth Cymru. Mae’r canlyniadau wedi’u cynnwys fel rhan o ddiweddariad newydd i’r Dangosfwrdd Iechyd a Lles Plant Ysgolion Uwchradd , sef offeryn hawdd ei ddefnyddio sy’n galluogi defnyddwyr fel ysgolion, y llywodraeth ac awdurdodau lleol i edrych ar ffigurau o arolygon SHRN dros amser. Mae’r dangosfwrdd yn galluogi defnyddwyr i archwilio’r data yn ôl rhanbarthau gwahanol, oedrannau, rhywedd a chyfoeth teulu, gan roi cyfle i nodi tueddiadau ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru. 

Roedd bron chwarter y bechgyn (23 y cant) wedi bodloni canllaw cenedlaethol y Prif Swyddogion Meddygol ar gyfer o leiaf 60 munud o weithgarwch corfforol bob dydd, sef cynnydd o gymharu â 21 y cant yn 2019 a 2021.  Ymhlith merched, roedd 14 y cant yn bodloni’r canllawiau presennol, ac er bod hyn yn isel, mae wedi gwella o gymharu â 12 y cant yn 2021. 

Roedd yr arolwg hefyd yn edrych ar brofiadau pobl ifanc o fwlio.  Dywedodd bron 38 y cant o bobl ifanc eu bod wedi cael eu bwlio yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, sef cynnydd o gymharu â 32 y cant yn 2021. Mae’r canlyniadau yn uwch nag erioed o’r blaen yn yr arolwg gyda mwy na 40 y cant o ferched yn cael eu bwlio o gymharu â thros 30 y cant o fechgyn. 

Mwy o wybodaeth

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig