Citbag ar ei newydd wedd yn llawn ysbrydoliaeth i athrawon sy’n cyflwyno iechyd corfforol a lles mewn ysgolion
Mae plant ledled Cymru ar fin gweld gweithgarwch corfforol a chwaraeon yn fwy hwyliog a phleserus fyth diolch i becyn o adnoddau ar-lein sydd wedi’u cynhyrchu ar gyfer athrawon gan Chwaraeon Cymru.
Mae platfform Citbag dwyieithog Chwaraeon Cymru yn llawn syniadau sydd wedi’u hanelu at helpu athrawon i gynllunio sesiynau creadigol fel rhan o’r Cwricwlwm i Gymru, a gall yr adnoddau gael eu defnyddio hefyd gan unrhyw un sy’n cynnig gweithgareddau corfforol a chwaraeon i blant a phobl ifanc, fel hyfforddwyr, gwirfoddolwyr, arweinwyr ifanc, rhieni a gofalwyr.
Ar gyfer plant a phobl ifanc ar ddechrau eu siwrnai, mae Citbag yn cynnwys adnoddau Chwarae i Ddysgu sy’n annog datblygiad sgiliau symud corfforol sylfaenol fel cydbwysedd, taflu, rhedeg, dal a neidio. Wrth iddynt barhau â’u cynnydd, mae’r hwb yn cynnig Aml-sgiliau’r Ddraig a Champau’r Ddraig gan gefnogi athrawon i adeiladu ar y sylfeini hynny a helpu i baratoi pobl ifanc ar gyfer bywyd iach, actif.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.