Ffocws ar chwarae – Sut mae chwarae’n cefnogi iechyd meddwl plan
Mae Chwarae Cymru wedi cyhoeddi rhifyn newydd o Ffocws ar chwarae, sy’n ystyried rôl allweddol chwarae plant wrth hybu lles ac iechyd meddwl cadarnhaol. Mae wedi’i anelu at Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus ac mae’n trafod ffyrdd y gall cynlluniau lleol a rhanbarthol gefnogi chwarae.
Yn y rhifyn hwn o Ffocws ar chwarae, maent yn archwilio:
- sut mae chwarae yn cyfrannu at les uniongyrchol a thymor hir, iechyd corfforol, iechyd meddwl a gwytnwch plant
- y polisïau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n deddfu ar gyfer ac yn cymeradwyo chwarae fel rhywbeth hanfodol i iechyd a lles plant
- gwaith chwarae a rôl gweithwyr chwarae wrth gefnogi darpariaeth chwarae plant
- pwysigrwydd cydgynhyrchu a sicrhau dulliau integredig at chwarae a lles
- sut y gall Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus gyfrannu.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.