Buddsoddiad o £75 miliwn i gael mwy o bobl i gerdded a beicio

Bydd cynlluniau teithio egniol yn derbyn hwb ariannol o fwy na £53 miliwn eleni fel rhan o ymdrechion pellach i annog teithio iach – gyda mwy nag £20 miliwn i ddilyn.

Bydd 44 o gynlluniau mwy a phecynnau o gynlluniau mewn awdurdodau lleol yn cael eu hariannu drwy gyfran gyntaf y Gronfa Teithio Llesol eleni, gwerth £47 miliwn. Yn y swm hwn mae hefyd ‘dyraniad craidd’ gwerth £14 miliwn a rennir ymhlith yr holl awdurdodau lleol.

Bydd £20 miliwn arall yn cael ei ddyrannu yn ddiweddarach yn y flwyddyn i gefnogi mwy o gynlluniau.

Yn ogystal, bydd disgyblion yn cael cymorth i gyrraedd yr ysgol drwy’r grant Llwybrau Diogel mewn Cymunedau – sydd bellach yn werth £6.4 miliwn. Bydd hyn yn cefnogi 21 o gynlluniau ledled Cymru ac yn canolbwyntio ar greu llwybrau cerdded a beicio diogel o amgylch ysgolion.

Mae’r buddsoddiad mewn teithio llesol yn rhan o becyn ariannu gwerth mwy na £210 miliwn i gefnogi’r strategaeth drafnidiaeth newydd.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig