Ymgynghoriad: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn cwestiynau ar gamau arfaethedig i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag niwed ysmygu, trwy greu’r genhedlaeth ddi-fwg gyntaf. Mae hefyd yn gofyn am gynigion i fynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc a sicrhau bod y gyfraith yn cael ei gorfodi.

Mae’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau mewn 3 maes y byddai angen deddfwriaeth newydd ar eu cyfer, sef:

  • Creu cenhedlaeth ddi-fwg: ymgynghori ar y polisi cenhedlaeth ddi-fwg a’i gwmpas.
  • Mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc: ymgynghori ar sawl opsiwn i sicrhau ein bod yn cymryd y camau mwyaf priodol ac effeithiol, gan adeiladu ar ddadansoddiad Lloegr o’r alwad am dystiolaeth ar fepio ymhlith pobl ifanc.
  • Gorfodi: ymgynghori ar y cynnig i gyflwyno pwerau newydd i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i gyflwyno hysbysiadau cosb penodedig i orfodi deddfwriaeth oedran gwerthu cynhyrchion tybaco a fêps.

Dyddiad cau: 6 Rhagfyr 2023

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig