Mwy o Gymorth i Roi’r Gorau i Smygu i Leihau Risgiau Pandemig

Mae ASH Cymru, yr elusen rheoli tybaco, yn galw am fwy o weithredu i wella iechyd smygwyr wrth i ymchwil newydd awgrymu y byddai’n lleihau effaith pandemig yn y dyfodol.

Mae’r gwaith ymchwil, a wnaed gan Uned Gydweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mhrifysgol Bangor ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, yn awgrymu bod angen gwneud mwy i fynd i’r afael ag ymddygiad sy’n niweidio iechyd i leihau cyfraddau heintio a gwella canlyniadau.

Cyfunodd yr ymchwil ganfyddiadau o 53 o adolygiadau, oedd yn cynnwys dros 2000 o ddarnau unigol o ymchwil, ar destun ymddygiad sy’n niweidio iechyd (smygu, cam-drin alcohol, defnydd o gyffuriau, gordewdra, anweithgarwch corfforol) a’u cysylltiad â chlefydau heintus gwahanol.

Mae’r canfyddiadau’n awgrymu bod unigolion ag ymddygiad presennol sy’n niweidio iechyd â mwy o risg o gael a datblygu mathau difrifol o amrywiaeth o glefydau heintus, yn cynnwys y ffliw, twbercwlosis, hepatitis a Covid-19.

Mae’r ymchwil yn awgrymu, er mwyn diogelu ein poblogaeth a systemau gofal iechyd byd-eang, bod yn rhaid gwneud mwy i gyfyngu ar ymddygiad sy’n gwaethygu ac yn cynyddu difrifoldeb clefydau heintus.

Mae astudiaethau’r DU wedi atgyfnerthu’r cysylltiadau rhwng smygu a mathau difrifol o glefydau heintus, yn nodedig, astudiaeth a gynhaliwyd gan Brifysgol Rhydychen a ganfu fod smygwyr 80% yn fwy tebygol o gael eu derbyn i’r ysbyty ar ôl dal Covid-19.

Mae Sefydliad Iechyd y Byd hefyd wedi amlygu cysylltiadau rhwng smygu a’r risg uwch o ddal twbercwlosis (TB), sydd yn dangos bod smygu yn amharu ar ymatebion cleifion i driniaeth y clefyd.

Mae astudiaethau hefyd wedi dangos y gall smygu gynyddu’r risg o ddatblygu’r ffliw, gydag un astudiaeth yn nodi bod smygwyr 5 gwaith yn fwy tebygol o ddatblygu’r clefyd heintus.

Mae’r ymchwil newydd wedi arwain at y sefydliad rheoli tybaco, ASH Cymru, yn galw am fwy o gymorth i roi’r gorau i smygu yng Nghymru.

Dywedodd Suzanne Cass, Prif Swyddog Gweithredol ASH Cymru: “Smygu yw achos pennaf marwolaeth a chlefydau ataliadwy yng Nghymru, ac mae’r pandemig wedi ein dysgu bod Covid yn gwaethygu’r risg i iechyd, sydd eisoes yn uchel, a achosir gan smygu.

“Mae’r ymchwil newydd yn awgrymu bod yn rhaid gwneud mwy i ddiogelu iechyd y boblogaeth, nid yn unig ar gyfer Covid, ond ar gyfer unrhyw bandemig ychwanegol a allai ddod yn y dyfodol.

“Yng ngoleuni’r ymchwil newydd, byddwn yn annog Llywodraeth Cymru i atgyfnerthu ymdrechion a gwasanaethau rhoi’r gorau i smygu yng Nghymru, er mwyn diogelu iechyd y boblogaeth rhag clefydau trosglwyddadwy ac anhrosglwyddadwy.”

Mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn dechrau ar gynllun i leihau mynychder smygu yng Nghymru. Mae’r cynllun mewn cyfnod ymgynghori ar hyn o bryd, a’r nod fydd lleihau mynychder smygu yng Nghymru i 5% erbyn 2030.

Mae bwletin smygu diweddaraf Arolwg Cenedlaethol Cymru yn amcangyfrif bod 17% o oedolion Cymru’n dal i smygu, sydd yn gyfwerth â thua 440,000 o bobl yng Nghymru. Amcangyfrifir mai £302 miliwn y flwyddyn yw cost smygu i’r GIG yng Nghymru.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:

Simon Scheeres | Rheolwr Polisi a Chysylltiadau Cyhoeddus | [email protected] | 07841571516

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig