Siapio ein Hiechyd. Prif Swyddog Meddygol Cymru Adroddiad Blynyddol 2023

Yn ei adroddiad blynyddol ar gyfer 2023, mae Syr Frank Atherton, Prif Swyddog Meddygol Cymru, wedi galw ar gwmnïau mawr i gymryd mwy o gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol am iechyd y cyhoedd.

Mae’r adroddiad eleni, o’r enw ‘Siapio ein Hiechyd’, yn canolbwyntio ar y strategaethau a’r dulliau sy’n cael eu defnyddio gan fusnesau i hyrwyddo cynhyrchion a dewisiadau sy’n niweidiol i’n hiechyd – gan gynnwys fepio, gamblo a bwyd a diod sydd wedi’u prosesu hyd at lefel eithafol.

Mae’n dweud y gall diwydiannau mawr gael dylanwad sylweddol ar ein hamgylchedd ac ar ein dewisiadau mewn ffyrdd amrywiol a chymhleth – o’r ffordd y byddant yn cael gafael ar gynhyrchion ac yn eu gweithgynhyrchu i’w dulliau marchnata.

Mae adroddiad blynyddol y Prif Swyddog Meddygol yn edrych ar gyflwr iechyd y cyhoedd yng Nghymru ac yn gwneud argymhellion i wella hyn.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later

Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig