Uchelgais i gael Cymru ddi-fwg erbyn 2030 – gyda smygu’n parhau i fod yn brif achos marwolaethau cyn pryd

Mae’r Dirprwy Weinidog Llesiant, Lynne Neagle wedi lansio ymgynghoriad ar y strategaeth hirdymor ar reoli tybaco, Cymru Ddi-fwg. Bydd yr ymgynghoriad ar agor tan 31 Ionawr. Targed y strategaeth yw cael Cymru ddi-fwg erbyn 2030, sy’n golygu y bydd llai na 5% o’r boblogaeth yn smygu.

Gydag oddeutu 14% o bobl yng Nghymru’n smygu, mae cysylltiadau cryf rhwng smygu ac amddifadedd, gyda’r rheini mewn ardaloedd mwy difreintiedig yn fwy tebygol o smygu. Mae ymchwil hefyd wedi dangos bod unigolion â salwch meddwl tua dwywaith yn fwy tebygol o smygu na phobl nad oes ganddynt gyflyrau iechyd meddwl.

Eleni, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno meysydd chwarae, tiroedd ysgol a thiroedd ysbytai di-fwg. Y flwyddyn nesaf (ar 1 Mawrth 2022) bydd ystafelloedd lle caniateir smygu mewn gwestai a thai llety yn cael eu gwahardd, ac ni fydd smygu’n cael ei ganiatáu mewn lletyau gwyliau hunangynhwysol fel bythynnod, carafanau a lletyau AirBnB. Mae gwneud mwy o fannau cyhoeddus yn ardaloedd di-fwg yn diogelu pobl rhag mwg ail-law niweidiol, ond mae hefyd yn chwarae rhan bwysig o ran sicrhau mai ardaloedd di-fwg yw’r ‘norm’ a chefnogi mwy o smygwyr i roi’r gorau iddi.

Bydd yr ymgynghoriad yn gofyn barn pobl ynglŷn â sut i greu cymdeithas ddi-fwg yng Nghymru yn ogystal â barn ar y camau gweithredu manwl a nodwyd yn y cynllun cyflawni dwy flynedd cyntaf.

Bydd y strategaeth hefyd yn edrych ar sut y gellir rhoi cymorth ychwanegol i helpu mwy o bobl i roi’r gorau iddi drwy’r gwasanaeth Helpa Fi i Stopio, sydd am ddim gan y GIG, yn ogystal â chynlluniau i ehangu’r cymorth ar gyfer smygwyr sydd yn yr ysbyty. Gellir gofyn i sefydliadau a ariennir gan arian cyhoeddus i fod yn ddi-fwg hefyd a chefnogi eu gweithlu i gael cyngor a chymorth i roi’r gorau i smygu.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig