Ymgynghoriad: Creu cenhedlaeth ddi-fwg a mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc
Mae’r ymgynghoriad hwn yn gofyn cwestiynau ar gamau arfaethedig i ddiogelu cenedlaethau’r dyfodol rhag niwed ysmygu, trwy greu’r genhedlaeth ddi-fwg gyntaf. Mae hefyd yn gofyn am gynigion i fynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc a sicrhau bod y gyfraith yn cael ei gorfodi.
Mae’r ymgynghoriad yn gofyn cwestiynau mewn 3 maes y byddai angen deddfwriaeth newydd ar eu cyfer, sef:
- Creu cenhedlaeth ddi-fwg: ymgynghori ar y polisi cenhedlaeth ddi-fwg a’i gwmpas.
- Mynd i’r afael â fepio ymhlith pobl ifanc: ymgynghori ar sawl opsiwn i sicrhau ein bod yn cymryd y camau mwyaf priodol ac effeithiol, gan adeiladu ar ddadansoddiad Lloegr o’r alwad am dystiolaeth ar fepio ymhlith pobl ifanc.
- Gorfodi: ymgynghori ar y cynnig i gyflwyno pwerau newydd i awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr i gyflwyno hysbysiadau cosb penodedig i orfodi deddfwriaeth oedran gwerthu cynhyrchion tybaco a fêps.
Dyddiad cau: 6 Rhagfyr 2023
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.