Iechyd meddwl pobl ifanc wedi’i flaenoriaethu gyda dyfarniad cyllid

Mae prosiect sy’n ceisio cefnogi iechyd meddwl pobl ifanc yn Ne Cymru, wedi cael y golau gwyrdd, diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.

Mae’r prosiect ‘Meddwl Ymlaen’, Maniffesto Iechyd Meddwl; Gweithredu ar gyfer ein Dyfodol wedi derbyn £900,472 gan Gronfa’r Loteri Genedlaethol. Bydd y cyllid yn galluogi menter gymdeithasol yng Nghaerdydd, Llesiant Rhieni Sengl a Heads Above The Waves, i weithio gyda phobl ifanc 10-24 oed i ddatblygu a gweithredu dulliau i gefnogi eu hiechyd meddwl a’u cydnerthedd.

Mae’r bartneriaeth yn cynnwys y Sefydliad Iechyd Meddwl, Canolfan Genedlaethol ar gyfer Ymchwil Iechyd a Llesiant y Boblogaeth Prifysgol Abertawe ac Is-adran Ymchwil a Gwerthuso Iechyd Cyhoeddus Cymru, a fydd yn gweithio gyda’i gilydd i ddeall yn well beth sy’n gweithio i gefnogi iechyd meddwl pobl dros y pedair blynedd nesaf.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig