Merched ysgolion uwchradd yng Nghymru yn adrodd bod eu defnydd problemus o gyfryngau cymdeithasol ddwywaith cymaint â bechgyn
Mae darganfyddiadau newydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, mewn partneriaeth â’r Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion ym Mhrifysgol Caerdydd, yn dangos bod gan ferched oedran ysgol uwchradd gyfraddau llawer uwch o ddefnydd problemus hunangofnodedig o gyfryngau cymdeithasol na bechgyn. Roedd y gwahaniaethau fwyaf amlwg ym mlynyddoedd naw a deg, gydag un o bob pump o ferched yn nodi eu defnydd problemus eu hunain o’i gymharu ag un o bob deg bachgen.
Daw’r data hyn o arolwg Iechyd a Lles Myfyrwyr y Rhwydwaith Ymchwil Iechyd mewn Ysgolion (SHW) 2023, un o’r arolygon mwyaf o blant ysgol yng Nghymru. Gofynnodd yr arolwg i bobl ifanc rhwng 11 a 16 oed a ydynt wedi ceisio cyfyngu ar eu defnydd eu hunain o gyfryngau cymdeithasol ac wedi methu â gwneud hynny, a ydynt ond yn gallu meddwl pryd y byddant yn gallu defnyddio’r safleoedd hyn nesaf, a ydynt wedi esgeuluso gweithgareddau eraill fel chwaraeon a hobïau er mwyn blaenoriaethu cyfryngau cymdeithasol, neu a yw wedi achosi gwrthdaro gyda theulu neu ffrindiau?. Daw’r cwestiynau hyn o offeryn a gydnabyddir yn rhyngwladol, sef Graddfa Anhwylder Cyfryngau Cymdeithasol (SMDS*).
Adroddodd 21.0 y cant o ferched ym mlwyddyn deg a 20.5 y cant ym mlwyddyn naw y gyfradd uchaf o ddefnydd problemus o gyfryngau cymdeithasol, o’i gymharu â 10.1 a 9.8 y cant o fechgyn yn y drefn honno. Y ffigur cyffredinol ar gyfer Cymru yw 17.9 y cant ar gyfer merched a 9.7 y cant ar gyfer bechgyn.
Yn ogystal â’r gwahaniaeth rhwng y rhywiau, roedd bwlch hefyd rhwng teuluoedd mewn gwahanol sefyllfaoedd economaidd. Adroddodd merched o gartrefi cyfoeth isel a chyfoeth canolig (gan ddefnyddio’r Raddfa Cyfoeth Teuluoedd*) sgoriau ar gyfer defnydd problemus o gyfryngau cymdeithasol ar 20.8 a 19.0 y cant yn y drefn honno, sy’n sylweddol uwch na’r bechgyn yn yr un grwpiau a oedd ar 12.1 a 10.3 y cant yn y drefn honno.
Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun
Save
Save this article for later
Dod yn aelod
Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.