Gwahoddiad – briff ar raglen gyfathrebu genedlaethol newydd Gweithredu ar Hinsawdd Cymru

Ar 13 Gorffennaf rhoddwyd Datganiad Ysgrifenedig gan y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James AS, i nodi cyhoeddi strategaeth genedlaethol, sef ’Gweithredu ar Newid Hinsawdd – Strategaeth Ymgysylltu â’r Cyhoedd’.

Pwrpas y Strategaeth newydd hon yw gosod fframwaith i Lywodraeth Cymru, a’n partneriaid cyflenwi cyfathrebu hinsawdd cenedlaethol a rhanbarthol, weithio gyda’i gilydd i gefnogi ac ymgysylltu â phobl a chymunedau Cymru wrth weithredu ar yr argyfyngau hinsawdd a natur.

Drwy’r Strategaeth newydd, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ymgysylltu â rhwydweithiau cyfathrebu cenedlaethol, rhanbarthol a lleol eraill i annog ‘cymuned o ymgyrchoedd’ a ddarperir o dan frand newydd Gweithredu ar Hinsawdd Cymru. Fel partner cyflenwi gwerthfawr, hoffem eich gwahodd i fynychu un o ddau weithdy briffio y byddwn yn eu trefnu ar y dyddiadau canlynol:

15:00-16:30 – Dydd Mawrth, 29 Awst 2023; a
15:00-16:30 – Dydd Mawrth, 5 Medi 2023.

Bydd y gweithdai yn cael eu cynnal yn rhithiol (trwy Microsoft Teams) a byddant yn cwmpasu’r un cynnwys a fformat. Byddant yn dechrau gyda throsolwg o’r Strategaeth newydd, yr ymgyrch genedlaethol newydd a gaiff ei lansio’n ddiweddarach ym mis Medi, a gwefan newydd Gweithredu ar Hinsawdd Cymru (gweler: https://www.gweithreduarhinsawdd.llyw.cymru/). Yna cewch eich gwahodd i ymuno â grwpiau i drafod cyfleoedd i gydweithio ar gyflawni’r ymgyrch, ac i roi adborth cychwynnol ac archwilio cyfleoedd i gyfrannu cynnwys ar gyfer y wefan newydd yn y dyfodol.

Os hoffech chi ymuno, ymatebwch i Grasshopper Communications (y trefnwyr) drwy anfon e-bost i: [email protected], ffôn 02920 024427 yn cadarnhau pa ddiwrnod yr hoffech chi fynychu ac anfonir gwahoddiad calendr atoch gyda dolen i gael mynediad i’r cyfarfod. Anfonwch yr e-bost hwn ymlaen at unrhyw gydweithwyr neu sefydliadau eraill y credwch y byddai diddordeb ganddynt mewn mynychu. Os na allwch chi ymuno ar y naill ddyddiad neu’r llall, ond yr hoffech gael eich cynnwys ar restr ar gyfer gweithdai yn y dyfodol a drefnir i drafod rhaglen gyfathrebu Gweithredu ar Hinsawdd Cymru, yna dylech hefyd ymateb yn uniongyrchol i Grasshopper Communications.

Yn ôl i’r holl newyddion

Tagiau Cliciwch dag i weld mwy ar ei destun

Save

Save this article for later


Dod yn aelod

Elwa ar fynediad cynnar at gynnwys, cymorth yn cynnal eich digwyddiadau eich hun a mwy gydag aelodaeth Rhwydwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Yn ôl i'r brig